Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Deddf Rheoli Perygl Llifogydd

Mae'r Llywodraeth drwy Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ac wedi hynny drwy Lywodraeth Cymru, wedi cynhyrchu cyfres o Dargedau Lefel Uchel y mae'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn eu tro Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol eu bodloni er mwyn rheoli a lleihau'r risg i bobl ac eiddo o ganlyniad i lifogydd.

Mae'n ofynnol i CBS Castell-nedd Port Talbot, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) gan Reoliadau Perygl Llifogydd (2009), Cyfarwyddeb Llifogydd yr UE 2007/60/EC a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 gymryd camau rhesymol i atal llifogydd neu liniaru'r perygl ohonynt i bobl ac eiddo. Fodd bynnag, rhaid nodi bod llifogydd yn broses naturiol ac ni all unrhyw system ddraenio na mesurau amddiffyn rhag llifogydd roi amddiffyniad llwyr rhag pob digwyddiad llifogydd.

Mae gan y cyngor bwerau o dan Ddeddf Draenio Tir 1991, Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Diogelu'r Arfordir 1949 i orfodi perchnogion tir preifat i sicrhau bod perygl llifogydd yn cael ei liniaru ac mae ein hadran Gwasanaethau Priffyrdd a Draenio'n sicrhau bod gwaith cynnal a chadw sylfaenol yn cael ei wneud ar asedau penodol sydd dan berchnogaeth y cyngor fel mater o drefn.

Bydd y cyngor yn anelu at:-

  • Roi cyngor ac arweiniad i breswylwyr, y gallai llifogydd effeithio arnynt, ar ffyrdd o liniaru'r perygl o lifogydd i'w heiddo.
  • Sicrhau bod peirianwyr a gweithwyr cynnal a chadw ar ddyletswydd i ddarparu cymorth di-oed mewn lleoliadau allweddol a sicrhau bod amddiffynfeydd a'r system ddraenio'n cael eu harchwilio, eu cynnal a'u cadw a bod gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosib.
  • Cynnal a chlirio rhwydweithiau ffyrdd yr effeithir arnynt gan dywydd garw.
  • Os oes angen, cynorthwyo i symud preswylwyr o'u heiddo a darparu llety dros dro drwy ganolfannau gorffwys.
  • Ymateb i geisiadau am gymorth brys gan y cyhoedd yn seiliedig ar flaenoriaethau a hefyd ar argaeledd adnoddau, os yw'n ddiogel gwneud hynny.
  • Gweithio gyda phartneriaid amlasiantaeth i leihau effaith llifogydd a stormydd ar y cymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a sicrhau parhad gwasanaethau allweddol.

Ar adegau o argyfwng, bydd y cyngor yn ymdrechu i ddiogelu'r cyhoedd yn gyffredinol ac ni fydd yn gallu cynorthwyo nifer mawr o berchnogion tai unigol y gallai eu heiddo fod dan fygythiad.