Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth ar gyfer preswylwyr lleol

Llythyr ar gyfer Preswylwyr Lleol (12 Gorffennaf 2019)

Annwyl Syr/Fadam

Mae’n debygol y byddwch bellach yn ymwybodol, o ganlyniad i sylw yn y wasg, fod y Cyngor wedi penderfynu ddoe i symud dechrau gwyliau’r haf ymlaen ar gyfer staff a disgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig. Gwnaed y penderfyniad hwn ar ôl derbyn adroddiad gan arbenigwyr daearegol, sy’n tynnu sylw at risg i iard chwarae’r ysgol gan y posibilrwydd o dirlithriad.

Gwybodaeth gynnar gan ein hymgynghorwyr geodechnegol arbenigol yw hyn, ac mae ein prif ffocws yn canolbwyntio ar y perygl a gysylltir yn uniongyrchol â’r gwastraff o chwarel a leolir uwchlaw’r ysgol; rhaid i mi bwysleisio ein bod wedi cau’r ysgol fel mesur gwarchodol hyd nes y bydd mwy o ymchwiliadau manwl yn digwydd.

Mae’r adroddiad a ddarparwyd gan Earth Science Partnership (ESP), yr arbenigwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, yn tynnu sylw at risg lefel ganolig o domen wastraff chwarel ger yr ysgol, sy’n cael ei heffeithio gan ddŵr daearol.

Darganfu ymchwiliadau ESP fod posibilrwydd, pe bai’r nant yn cael ei rhwystro o ganlyniad i ddigwyddiad tywydd difrifol, i lefelau dŵr a phwysau yn y domen beri i ddeunyddiau lifo i lawr y llethr.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio’n benodol at yr ysgol a’i libart yn unig, ac nid yw ar hyn o bryd yn cyfeirio at yr ardal ehangach. Serch hynny, mae’r Cyngor yn ystyriol o ofidiau gan breswylwyr lleol, ac yn hynny o beth, rydym wedi gofyn i ESP gynnal rhagor o ymchwiliadau manwl a gwneud gwaith modelu daearol, er mwyn sefydlu a oes posibilrwydd y gallai rhywbeth effeithio ar yr ardal sy’n amgylchynu’r ysgol.

Pan fydd yr wybodaeth hon wedi dod i’r fei, byddwn ni’n cysylltu â chi unwaith yn rhagor i’ch diweddaru.

Mae modd gweld yr adroddiad drafft ar wefan y Cyngor.

Mae’r Cyngor wedi sefydlu cyfeiriad e-bost penodedig hefyd, fel a ganlyn: E-bost: godrergraig@npt.gov.uk

Yn gywir
G J Nutt
Cyfarwyddwr Amgylchedd