Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y diweddaraf am Godre’r Graig

Diweddariad 15/03/2024

Llawrlwytho

  • Llythyr i preswylwyr (DOCX 1.20 MB)

    i.Id: 4984
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Llythyr i preswylwyr
    mSize: 1.20 MB
    mType: docx
    i.Url: /media/yzfbvaer/060324-letter-to-residents-welsh_.docx

  • Rhybudd dymchwel (DOCX 412 KB)

    i.Id: 4986
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Rhybudd dymchwel
    mSize: 412 KB
    mType: docx
    i.Url: /media/svcj25oi/rhybudd-dymchwel.docx

  • Location map (PDF 231 KB)

    i.Id: 4987
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Location map
    mSize: 231 KB
    mType: pdf
    i.Url: /media/15npqtfu/d32460-loc2.pdf

Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau

Diweddariad 7/10/2021

Cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf gan Earth Science Partnership.

O ystyried y perygl a achoswyd gan domen wastraff Cilmaengwyn a’i lleoliad yng nghyd-destun adeilad yr ysgol, comisiynodd y cyngor waith pellach gan ESP i archwilio dewisiadau adferol ar gyfer y domen.

Mae’r adroddiad yn amlinellu opsiynau adferol a’r peryglon a’r costau cysylltiedig.

Diweddariad 9/3/2021

Mae preswylwyr sy’n byw mewn ardal gerllaw tomen wastraff chwarel yng Ngodre’r Graig wedi cael gwybod fod y perygl i’w heiddo o dirlithriad yn ‘isel i isel iawn’.

Mae hyn yn dilyn adroddiad gan yr arbenigwyr daearegol Earth Science Partnership (ESP) a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i wneud gwaith ychwanegol ar draws ardal ehangach o bentref Godre’r Graig yn ychwanegol at y gwaith ymchwil oedd yn canolbwyntio ar yr ysgol gynradd leol.

Yn ystod eu harchwiliadau blaenorol, darganfu ESP risg gymedrol o domen gwastraff chwarel uwchlaw Ysgol Gynradd Godre’r Graig, a arweiniodd at adleoli’r ysgol dros dro.

Gan ystyried gofidiau preswylwyr lleol, gofynnodd y cyngor i ESP wneud mwy o waith archwilio a modelu daearol manwl i sefydlu a oes unrhyw ddarpar effaith yn bosib ar yr ardal breswyl o gwmpas yr ysgol.

  • Adleoli Ysgol Gynradd Godre’r Graig: Diweddaru’r Sefyllfa (28 Awst 2019)Mae’n debygol iawn y bydd cynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu dosbarthiadau dros dro i’w defnyddio gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig yn eu hardal benodedig eu hunain o Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn cael ei gwblhau erbyn wythnos gyntaf mis Medi.

  • Diweddariad ynghylch Ysgol Gynradd Godre’r Graig (22 Awst 2019) - Mae cynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i adleoli disgyblion Ysgol Gynradd Godre’r Graig i ddosbarthiadau dros-dro yn eu hardal benodedig eu hunain yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe yn debygol o fod yn barod erbyn wythnos gyntaf mis Medi.

  • Diweddariad ar gais cynllunio 26 Gorffennaf 2019. Gallwch weld y cais cynllunio yma

  • Gwybodaeth ar gyfer Preswylwyr Lleol (12 Gorfennaf 2019)
    Bydd preswylwyr sy’n byw’n agos at Ysgol Gynradd Godre’r Graig yn derbyn llythyron y prynhawn yma oddi wrth y cyngor, fydd yn ei gwneud hi’n fwy eglur pam y gwnaed y penderfyniad i gau’r ysgol, ac yn amlinellu pa gamau a gymerir nesaf. Mwy...

  • Diweddariad ynghylch Ysgol Gynradd Godre’r Graig (12 Gorffennaf 2019)
    Roedd y Cyngor yn gweithredu ddoe mewn ymateb i wybodaeth gychwynnol a dderbyniwyd gan ein hymgynghorwyr geodechnegol arbenigol. Ein prif ffocws yw’r perygl sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r domen wastraff o chwarel a leolir uwchlaw iard chwarae’r ysgol.

  • Ysgol am resymau diogelwch ar ôl canfod risg daearegol (11 Gorffennaf 2019)
    Bu’n rhaid cau Ysgol Gynradd Godre’r Graig ar ôl i arbenigwyr daearegol ganfod fod darpar berygl o dirlithriad i iard chwarae’r ysgol.
    Darganfu Earth Science Partnership (ESP), yr arbenigwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fod risg lefel ganolig o dip gwastraff o chwarel ger yr ysgol, ar ôl i’r Cyngor ofyn iddynt ymestyn eu gwaith ymchwilio i’r perygl o dirlithriadau sy’n digwydd yn ardal gyfagos Pant-teg, Ystalyfera.