Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cronfa Hyblyg Pontio'r gadwyn gyflenwi

Bydd busnesau sy’n perthyn i gadwyn gyflenwi Tata Steel UK ac y bydd y newid i ddefnyddio trydan i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnyn nhw yn cael ceisio am arian i’w helpu â heriau tymor byr y cyfnod pontio, yn ogystal ag am help i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu.

Mae Busnes Cymru yn gwahodd busnesau sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Tata Steel UK i asesu a ydyn nhw’n gymwys am gymorth Cronfa Pontio Hyblyg y Gadwyn Gyflenwi sy’n rhan o gronfa gymorth gwerth £80m a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU trwy’r Bwrdd Pontio traws-lywodraethol.

Bydd busnesau’n gallu datgan eu diddordeb i drafod eu hanghenion gyda Busnes Cymru, trwy wiriwr cymhwysedd. Bydd busnesau cymwys wedyn yn mynd trwy broses ddiagnostig drylwyr cyn cael gwahoddiad i wneud cais am gymorth ariannol.

Gallwch ddefnyddio'r adnodd hwn i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid: Cronfa Hyblyg Pontio'r gadwyn gyflenwi | Busnes Cymru (gov.wales)