Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm Pobl Ifanc Egnïol

Mae'r tîm pobl ifanc egnïol yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol a chwaraeon ledled y fwrdeistref sirol

Mae'r tîm pobl ifanc egnïol yn gweithio gyda nifer o wahanol bartneriaid i sicrhau y gall y rhaglen gyrraedd cynifer â phosibl. Gwnaed cysylltiadau cryf â phob ysgol, ac mae hyn wedi sicrhau cyfathrebu a chyflwyno gweithgareddau yn gadarnhaol ac yn rheolaidd i bobl ifanc. 

Cynllun Llysgennad Ifanc

Mae'r cynllun llysgenhadon ifanc yn hyfforddi plant a phobl ifanc i fod yn arweinwyr a'r llais ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae Llysgenhadon Efydd yn gweithredu mewn ysgolion cynradd ar hyn o bryd.

Hyfforddwyd llysgenhadon arian mewn ysgolion uwchradd ac mae gennym Lysgenhadon Aur yng Ngholeg Grŵp NPTC a Llysgenhadon Platinwm sy'n ein cynrychioli ar lefel genedlaethol.

Mae'r llysgenhadon hyn i gyd yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn uniongyrchol yn eu cymunedau, gan hyrwyddo cysylltiadau rhwng clybiau ysgolion a darparu ac arwain sesiynau eu hunain

Mae'r gwasanaeth a'i gysylltiadau cryf ag ysgolion wedi cyflawni llawer o brosiectau a mentrau gan gynnwys:

  • campau'r Ddraig, aml-sgiliau a chwaraeon,
  • GGCC
  • 5 x 60
  • prosiectau wedi'u targedu
  • datblygu llwybr chwaraeon
  • ac wedi dylanwadu ar ddatblygiad ysgolion fel cyfleusterau chwaraeon/gweithgareddau cymunedol.es.

Rydym yn defnyddio ysgolion a pharciau lleol fel sylfaen ar gyfer gwersylloedd amlganolfan a gweithgareddau gwyliau. Rydym wedi cysylltu ag ysgolion iach a darparwyr chwaraeon/gweithgareddau eraill er mwyn gwella'r hyn rydym yn ei gynnig.

Cynllun Llysgennad Ifanc

Gemau Stryd

Nod y gweithgareddau Gemau Stryd a ddyluniwyd ac a ddarperir gan GGCC yw targedu ardaloedd o dlodi a darparu  gweithgarwch fforddiadwy, hygyrch i bobl ifanc ar garreg eu drws. Mae cydweithio rhwng y gwasanaeth yr heddlu, timau cyntaf cymunedau, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol wedi sicrhau ymrwymiad llwyddiannus a datblygu sesiynau gweithgaredd newydd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gemau stryd

Gwaith Partneriaeth

Mae cysylltiadau ag addysg uwch ac ymhellach, gan gynnwys Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru wedi arwain at welliannau yn ein gweithlu ac wedi ehangu cyflwyno prosiectau.

Rydym hefyd wedi defnyddio ymchwil a wnaed gan israddedigion i lywio'r hyn a gynigir ar gyfer gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Mae llawer o'n cyflogeion wedi cwblhau lleoliad gyda ni neu wedi cael eu hyfforddi mewn colegau/prifysgol yn yr ardal.

Mae nifer fawr o sesiynau/gwyliau a digwyddiadau wedi cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Grŵp NPTC ac mae hyfforddiant a ddarperir gan dîm pobl ifanc egnïol i fyfyrwyr chwaraeon BTEC yn sicrhau darpariaeth o ansawdd gan fyfyrwyr sy'n cwblhau oriau o gyflwyno mewn ysgolion fel rhan o'u cwrs.

Gwneud y mwyaf o gyfleusterau lleol

Yr ydym yn defnyddio'r cyfleusterau Celtaidd i gynnal sesiynau wythnosol, yr ydym hefyd yn defnyddio ysgolion, canolfannau cymunedol a'n hadnoddau naturiol rhagorol mewn partneriaeth â darparwyr gweithgareddau awyr agored. Mae prosiectau diweddar sy'n canolbwyntio ar feicio mynydd a syrffio wedi datblygu clybiau iau ar gyfer y gweithgareddau hyn.Yr ydym yn defnyddio'r cyfleusterau Celtaidd i gynnal sesiynau wythnosol, yr ydym hefyd yn defnyddio ysgolion, canolfannau cymunedol a'n hadnoddau naturiol rhagorol mewn partneriaeth â darparwyr gweithgareddau awyr agored. Mae prosiectau diweddar sy'n canolbwyntio ar feicio mynydd a syrffio wedi datblygu clybiau iau ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Er mwyn datblygu llwybrau ar gyfer cysylltiadau chwaraeon dethol â chyrff llywodraethu cenedlaethol, mae wedi sicrhau ymagwedd gydgysylltiedig ac wedi gwella'r gwreiddiau yn y meysydd hyn.

Mae pêl rwyd yn enghraifft wych o ddatblygu clybiau cymunedol a Chynghrair pêl-rwyd Bae Abertawe gyda thros 500 o ferched yn cystadlu'n gystadleuol ar nos Wener gyda chlybiau o Abertawe a Pen-y-bont ar Ogwr yn teithio i Gastell-nedd Port Talbot i gystadlu.

Sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf

Mae llawer o'n gweithgareddau'n cael eu hyrwyddo ar Facebook ac ar Twitter, trowch at ein tudalennau am fwy o wybodaeth.

Mae'r gwasanaeth yn defnyddio eventbrite i gofrestru plant ar gyfer gweithgareddau.

Chwaraeon Anabledd Cymru

Michelle Lewis yw Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.

O fewn CNPT mae yna wahanol glybiau chwaraeon gwirfoddol lleol sef ganolfannau hamdden, pyllau nofio ac ardaloedd gemau aml-ddefnydd. Mae'r ddarpariaeth yn amrywio o Jiwdo, Bowlio a Chanŵio i Syrffio a Cherdded, mae rhywbeth at ddant pawb.

Os ydych chi'n hyfforddwr neu'n wirfoddolwr, mae Cwrs Hyfforddi Cynhwysiant Anabledd y DU ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru, mae cyrsiau'n cael eu rhedeg sawl gwaith dros y flwyddyn felly cysylltwch â Michelle am y dyddiadau sydd i ddod.

Er mwyn helpu i gefnogi clybiau i ddarparu sesiynau o ansawdd da, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno insport. Y broses adnabod ac achredu pedair haen (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) y gall unrhyw glwb chwaraeon fynd drwyddi i ddangos eu bod wedi ymrwymo i ddarparu a chyflwyno chwaraeon cynhwysol.

Os oes gan eich clwb ddiddordeb am ddod yn glwb insport, er mwyn ennill y manteision a dod yn gynhwysol, cysylltwch â ni a gallwn ni ddechrau eich taith gyda'n gilydd.