Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Llwybrau archwilio bywyd gwyllt

Mae cyfres gyffrous o lwybrau natur yn cael ei datblygu ar safleoedd ar draws CNPT. Bydd dilyn y llwybrau hyn yn eich helpu i ddarganfod bioamrywiaeth CNPT. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i weld a oes unrhyw lwybrau newydd wedi cael eu hychwanegu. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y gwaelod i'w cwblhau.

Bydd gan bob llwybr gymysgedd o luniau - ceisiwch eu casglu i gyd!

Pyllau'r Banwen

Mae pyllau'n gynefin gwych. Gall fod cannoedd o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid mewn pwll ac o'i amgylch. Mae'r pyllau hyn yn rhai gwneud, ond cofiwch archwilio'r cynefinoedd eraill sydd o gwmpas. Defnyddiwch Lwybr Pyllau'r Banwen i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt yma.

Her Fforwyr Dechreuol Parc Coedwig Afan

Dilynwch lwybr gradd werdd hawdd Afan i Goed Kanji.

Llwybr Trotian

Mae 4 prif ardal i'w harchwilio: y coetir, y glaswelltir, y tir llwyd a'r llwybr. Defnyddiwch y daflen i ddysgu mwy am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt a geir o gwmpas y llwybr.

Llwybr Gerddi Victoria

Efallai mai parc bach yng nghanol y dref yw hwn, ond mae'n llawn bywyd gwyllt cyffrous. Defnyddiwch y daflen i ddysgu mwy am yr anifeiliaid a'r planhigion gwych sydd ar garreg eich drws.

Llwybr Archwilio'r Gnoll

Mae Parc y Gnoll yn lle gwych i weld bywyd gwyllt. Codwch daflen greaduriaid pyllau’r Gnoll i chwilio am rywogaethau arbennig yn yr ardal archwilio pyllau.

Llwybr Rheilffordd Dyffryn

Dewch o hyd i'r placiau ac archwiliwch y bywyd gwyllt sydd yma.

Cyfarwyddiadau

  • Lawrlwythwch ac argraffwch y daflen isod (ei hargraffu ar bapur A3 fyddai orau)
  • Ewch â'ch hoff bensil neu greon gyda chi ac ymwelwch â safle'r llwybr
  • Dewch o hyd i'r placiau o amgylch y safle
  • Dewch o hyd i'r llun cywir yn y daflen, gosodwch y sgwâr gwag dros y plac metel
  • Gan ddal y papur yn gadarn, defnyddiwch eich pensil neu greon a rhwbio drosto
  • Codwch y papur i weld y llun.