Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ychwanegu eich gwasanaeth at ein rhestr

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn wasanaeth gwybodaeth am ddim i deuluoedd sy'n byw neu'n sy'n chwilio am wasanaethau o fewn ardal Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Rydym am i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ddefnyddio'r GGD i ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael iddyn nhw'n lleol. Mae'n debyg i'r hen Yellow Pages dibynadwy, ond mae'r gwasanaeth yn beiriant chwilio teuluol ar-lein.

Rydym yma i helpu teuluoedd ar bob math o broblemau ynghylch bywyd teuluol, gan gynnwys; Darparwyr gofal plant, Grwpiau Rhieni a Phlant Bach, Gwasanaethau Iechyd a Lles, cyfleoedd Hamdden a Chwaraeon (clybiau, cymdeithasau ac ati), Llyfrgelloedd, Canolfannau/Neuaddau Cymunedol, Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd y gallant gael mynediad atynt, hyfforddiant, cefnogaeth gydag anableddau neu gefnogaeth ariannol, a llawer, llawer mwy.

Mae gan GGD fynediad at gronfa ddata helaeth a byddant yn cyfeirio'r teuluoedd at y gwasanaethau sydd i'w cael yno. 

Rydym am ddatblygu ein Cyfeiriadur Teulu ‘Dewis Cymru’ a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gofrestru unrhyw wasanaethau/grwpiau rydych chi'n eu cynnal a fyddai o fudd i deuluoedd yn eich barn chi.

Cofrestrwch eich busnes/gwasanaeth. (gweler y canllaw cam wrth gam isod)

Rhesymau dros gofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Castell-nedd Port Talbot:

  • Gallwch gofrestru AM DDIM ac mae'r gwasanaeth AM DDIM i'r cyhoedd ei ddefnyddio
  • Gwnewch hi'n haws i bobl ddod o hyd i chi, ac fe wnawn ni hyrwyddo'r cyfeiriadur teulu am ddim!
  • Mae'r holl awdurdodau lleol ar draws Cymru'n defnyddio'r cyfeiriadur Dewis, felly dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru eich gwasanaeth/busnes! Fel y gall pobl ar draws Cymru chwilio amdanoch drwy ddefnyddio côd post.
  • Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif i fewngofnodi, gallwch ychwanegu cymaint o adnoddau/ddosbarthiadau ag y dymunwch dan yr un cyfrif
  • Byddwch yn derbyn e-bost bob 6 mis er mwyn gallu golygu'r hysbyseb neu ei gadw fel y mae a hynny wrth bwyso un botwm. Felly cedwir y cyfeiriadur Dewis yn berthnasol a chyfredol.
  • Mae'n darparu mapiau a chyfarwyddiadau i helpu pobl ddod o hyd i chi
  • Gall hysbysebu a golygu hysbysebion fod yn gostus i rai gwasanaethau/busnesau os yw manylion yn newid. Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn a golygu'r hysbysebion eich hun AM DDIM ar unrhyw adeg - dim ond mewngofnodi sy'n rhaid i chi ei wneud.

Gallwn hefyd rannu digwyddiadau rydych yn eu cynnal am ddim ar ein tudalen Digwyddiadau ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol.