Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Pwy all gael Taliadau Uniongyrchol?

Mae Taliadau Uniongyrchol yn opsiwn i unrhyw un sydd wedi cael ei asesu fel rhywun sydd ag angen gofal cymdeithasol cymwys.

Gall hyn gynnwys:        

  • rhieni a gofalwyr 16 oed neu hŷn
  • pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn ag anableddaus
  • oedolion ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl
  • oedolion hŷn â namau corfforol neu synhwyraidd

Os nad ydych wedi cael eich asesu yna bydd angen i chi gael asesiad Gwaith Cymdeithasol i benderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer gwasanaethau.

Gallwch ofyn am asesiad trwy gysylltu â Thîm Pwynt Cyswllt Sengl Castell-nedd Port Talbot (SPOC), sy'n cynnwys Gwasanaethau Oedolion a Phlant.

Thîm Pwynt Cyswllt Sengl
(01639) 686812 (01639) 686812 voice +441639686812