Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ar beth y gellir defnyddio Taliadau Uniongyrchol?

Gellir defnyddio Taliad Uniongyrchol ar gyfer nifer o bethau gwahanol, cyn belled â'i fod yn bodloni'ch angen a aseswyd.

Gallech gyflogi Cynorthwy-ydd Personol (CP) o’ch dewis i’ch helpu gyda:

  • tasgau fel ymolchi, gwisgo, siopa a glanhau
  • mynd allan yn y gymuned i wneud yr hyn yr ydych yn ei fwynhau

neu

  • gallech ddefnyddio’r arian i brynu offer untro sy’n cefnogi eich anghenion.
  • gallwch drefnu eich gwasanaethau cymorth eich hun gan asiantaeth.

Bydd y Taliad Uniongyrchol yn cael ei roi ar waith i helpu i wneud y mwyaf o'ch annibyniaeth, iechyd, lles a diogelwch.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol:

Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
(01639) 686812 (01639) 686812 voice +441639686812