Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Os ydych yn derbyn gofal a chymorth drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd, gellir defnyddio Taliad Uniongyrchol fel ffordd hyblyg ac amgen o ddarparu’r gwasanaeth hwn.

Mae Taliad Uniongyrchol yn daliad arian parod a roddir i chi gan y Cyngor, felly gallwch drefnu eich gofal a chymorth eich hun trwy gyflogi Cynorthwy-ydd Personol (CP), ond gyda chefnogaeth y Cyngor o hyd. Mae hyn yn ffordd o ddisodli pecyn gofal traddodiadol fel y mae’r Awdurdod Lleol yn ei roi ar waith fel arfer.

Drwy ddewis Taliad Uniongyrchol fel ffordd o gael eich cymorth wedi’i ddarparu, gall olygu:

  • mwy o ddewis a rheolaeth dros y math o wasanaethau a gewch, a phwy sy'n eu darparu.
  • mwy o hyblygrwydd o ran sut a phryd y darperir y cymorth.

Llyfryn Taliadau Uniongyrchol

  • Direct Payment Information Booklet (PDF 671 KB)

    i.Id: 4389
    i.ContentType.Alias: nptFile
    mTitle: Direct Payment Information Booklet
    mSize: 671 KB
    mType: pdf
    i.Url: /media/kfidwpki/direct-payments-information-booklet.pdf

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol:

Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
(01639) 686812 (01639) 686812 voice +441639686812