Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais?

Byddwn yn gwirio eich cais am fathodyn glas. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen mwy o wybodaeth arnom.

Unwaith y bydd gennym yr holl wybodaeth berthnasol, gall gymryd hyd at 8 wythnos i brosesu eich cais.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni, oni bai nad ydych wedi clywed gennym ar ôl 8 wythnos.

Os gwrthodir eich cais

Byddwn yn cysylltu â chi i egluro pam nad ydych yn gymwys i gael bathodyn glas.

Gallwch hefyd ailymgeisio os bydd eich problemau symudedd yn dod yn fwy difrifol.