Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Diogelwch mewn meysydd chwarae

Mae gan y gwasanaeth Rheoli Adeiladau rôl sylfaenol o ran meysydd chwaraeon yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae rheolau arbennig yn berthnasol ar gyfer trwyddedu meysydd chwaraeon ac arenâu cyhoeddus.   Mae'n amlwg bod y rhain yn angenrheidiol lle bo adeiladau ac adeileddau'n dal torfeydd. Mae gan dorfeydd eu nodweddion ymddygiadol eu hunain ac ystyrir y rhain wrth i'r lleoliadau gael eu dylunio a'u hadeiladu'n ffisegol.

Fodd bynnag, mae lleoliadau a mannau cyhoeddus yn aml yn cynnal digwyddiadau nad oedd y dylunwyr gwreiddiol erioed wedi'u hystyried.

Mae llawer o ddigwyddiadau'n gofyn am adeileddau dros dro ar gyfer eisteddleoedd, llwyfannau, rhwystrau i dorfeydd a chanolfannau cyfryngau. O rasys marathon i wyliau cerddoriaeth, mae gwasanaeth rheoli adeiladau'r awdurdod lleol yn helpu trefnwyr, contractwyr ac asiantaethau gorfodi eraill i weithio gyda'i gilydd.

Rheoli Adeiladau yw'r partner arweiniol yn Nhîm Diogelwch Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer meysydd chwaraeon; ar y cyd â'r Heddlu, yr Awdurdod Tân a'r Gwasanaeth Ambiwlans, mae'r Tîm Diogelwch yn ymdrin â thystysgrifau diogelwch cyffredinol ac arbennig o ran y tri stadiwm chwaraeon dynodedig yn y sir, y mae gan bob un ohonynt Dystysgrif Diogelwch Gyffredinol a adolygir yn flynyddol.

Mae hon yn broses barhaus gan y gall meysydd chwaraeon, fel pob adeilad arall, gael eu newid a'u hestyn.   Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod meysydd chwaraeon bellach yn cynnig cyfleusterau hefyd ar gyfer lletygarwch a chynadleddau, a defnyddir y cae chwarae ar gyfer digwyddiadau heblaw am rai chwaraeon.  Gellir canfod arweiniad ar ddiogelwch cefnogwyr mewn meysydd chwaraeon ym mhedwerydd rhifyn 'Guide to Safety at Sports Grounds', a gyhoeddwyd gan y Llyfrfa.

Mae'r Is-adran Rheoli Adeiladau'n ymdrin â thystysgrifau diogelwch cyffredinol ac arbennig o ran y tri stadiwm chwaraeon dynodedig yn y sir, gan roi cyngor ar ddiogelwch tân a materion adeileddol. Ni ellir rhoi'r drwydded tan y bodlonir yr awdurdod lleol fod y maes chwaraeon perthnasol yn ddiogel i'w ddefnyddio.

Mae Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 a Deddf Diogelwch rhag Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987 yn gofyn i feysydd chwaraeon penodol gyflwyno cais i'r awdurdod lleol am 'dystysgrif diogelwch'. Yn gyffredinol, mae hyn ar gyfer meysydd chwaraeon a all ddal mwy na 10,000 o gefnogwyr (stadiwm dynodedig), neu eisteddleoedd mewn meysydd chwaraeon sy'n darparu cyfleusterau dan do ar gyfer mwy na 500 o gefnogwyr (eisteddle rheoleiddiedig).

Mae'r dystysgrif yn manylu ar delerau a chyfundrefnau diogelwch, sy'n diogelu gwylwyr sy'n mynd i gemau rhag peryglon a all fod yn rhai go iawn pan fo torfeydd mawr yn ymgasglu.

Dylid anfon ymholiadau ynghylch a oes angen i faes chwaraeon gael tystysgrif diogelwch i'r cyfeiriad canlynol:

Rheoli Adeiladau
Y Ceiau, Ffordd Brunel
Parc Ynni Baglan
Llansawel
Castell-nedd SA11 2GG

Ffôn:  (01639) 686820

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Rheoli Adeiladau
Y Ceiau,
Ffordd Brunel Parc Ynni Baglan Llansawel Castell-nedd
SA11 2GG pref
(01639) 686820 (01639) 686820 voice +441639686820

Cyflwyno cais am y dystysgrif diogelwch

Ar ôl i faes chwaraeon gael ei ddynodi, mae'n drosedd o dan adran 12, Deddf 1975 i dderbyn gwylwyr tan i gais gael ei gyflwyno i'r awdurdod lleol am dystysgrif diogelwch.

Mae angen y drwydded hon ar feysydd chwaraeon a all ddal mwy na 10,000 o wylwyr, neu eisteddleoedd mewn meysydd chwaraeon sy'n darparu cyfleusterau dan do ar gyfer mwy na 500 o wylwyr.

Nodir amodau'r drwydded yn glir yn ysgrifenedig pan gaiff ei chyflwyno.

Rhaid i "berson cymwys" gyflwyno'r cais yn ysgrifenedig ar y ffurflen ddynodedig i'r cyfeiriad canlynol:

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Building Control
Building Control The Quays,
Brunel Way Baglan Energy Park Briton Ferry Neath
SA11 2GG pref
(01639) 686820 (01639) 686820 voice +441639686820

Y gost i gyflwyno cais am dystysgrif diogelwch yw £388.

Bydd hyn yn amrywio o stadiwm i stadiwm, ond yn gyffredinol dylid darparu'r canlynol.

  • Cynllun y stadiwm
  • Adeiledd
  • Lleoedd
  • System rheoli diogelwch
  • Tystysgrifau prawf perthnasol
  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol a ystyrir yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar y cais.

Yn gyffredinol, cynhelir archwiliadau'n flynyddol, ond nid oes dim byd i atal yr awdurdod lleol rhag archwilio'r maes chwaraeon yn amlach.

Nid oes cyfyngiad ar faint o amser gall yr awdurdod ei gymryd i brosesu'r cais.

Dylid cyflwyno apeliadau drwy'r Llys Ynadon; rhaid eu cyflwyno o fewn 28 niwrnod os ydynt yn gysylltiedig â thystysgrif diogelwch gyffredinol, ac o fewn saith niwrnod os ydynt yn gysylltiedig â thystysgrif diogelwch arbennig. Dylid cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad gwahardd o fewn 21 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad.

Nid oes dyddiad dod i ben ar dystysgrifau cyffredinol, ond nid yw hyn yn berthnasol i dystysgrifau arbennig.

Dylid rhoi gwybod i'r awdurdod yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau cyn iddynt ddigwydd.

Nid oes cofrestr fel y cyfryw ond mae'r dystysgrif diogelwch yn ddogfen gyhoeddus, y dylai unrhyw berson sy'n gyfrifol am gyflwyno cais amdani neu sy'n debygol o gael ei heffeithio ganddi gael mynediad iddi.