Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun partneriaeth

Mae hwn yn gynllun sy'n trawsffurfio awdurdodau “lleol” yn bartneriaid “cenedlaethol” heb golli'r manteision lleol y mae gan bob awdurdod lleol i'w cynnig wrth i'r gwaith symud ymlaen ar y safle.

Y nod yw lleihau oedi diangen gan awdurdodau statudol a lle bo'n bosib, cyflymu'r broses sy'n arwain at gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.

Mae'r Awdurdod Partner yn cyflawni hyn drwy gysylltu â'r Awdurdod Lleol Arolygu a darparu cyngor proffesiynol ar gyfer y Cwmni Partner yn ystod y cyfnod dylunio. Os gweithredir ar y cyngor hwn, ceir mwy o sicrwydd y bydd cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu yn dilyn heb ddiwygiadau pellach.

Mae'r Cynllun Awdurdod Partner yn darparu perthynas un i un ar gyfer Cwmni Partner ag Awdurdod Partner ar agwedd cymeradwyo cynlluniau pob prosiect adeiladu, heb ystyried lleoliad, gan amddiffyn natur cyfrinachol dylunio a chaffael adeiladu a gweithredu fel cyswllt effeithiol â'r awdurdod lleol lle bydd y prosiect yn cael ei adeiladu (Awdurdod Lleol Arolygu) ar ran y Cwmni Partner.

Bydd yr Awdurdod Partner yn asesu'r cynlluniau ar gyfer prosiect ac yn cyflwyno “nodyn penderfyniad” i awdurdod lleol y lleoliad adeiladu, gan arwain at gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu'r Awdurdod Lleol Arolygu hwnnw. Yn syth, mae hyn yn cael gwared ar unrhyw anghysondeb ymddangosiadol, gan ddarparu rhagweladwyedd mwy sylweddol ar gyfer y dylunydd a'i gleient.

Ar yr un pryd, ymgorfforir gwybodaeth leol adrannau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol ynghyd â hanes amgylchiadau'r safle a gwybodaeth werthfawr arall sy'n berthnasol i safleoedd fel rhan integredig o'r Cynllun Awdurdod Partner.

Mae'r dull hwn sydd bellach wedi'i hen sefydlu yn rhoi dros 300 o bartneriaid i gwmni ac awdurdodau lleol Arolygu pryd bynnag y bydd safle'n cael ei leoli yn eu hardal hwy. Byddant hefyd yn gweithio gyda'i gilydd i leihau oedi ar y safle yn y cam cyn adeiladu a phan fydd gwaith yn mynd yn ei flaen ar y safle.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ffurfio partneriaeth gyda Chastell-nedd Port Talbot cysylltwch â Mr. Paul Davis ar 01639 686952 neu e-bostiwch p.davis1@npt.gov.uk