Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Defnydd dros dro a ocassional

Ddefnydd Dros Dro

Mae Hysbysiadau o Ddefnydd Dros Dro'n caniatáu defnyddio mangre at ddibenion gamblo lle nad oes trwydded gan y fangre ond mae gweithredwr gamblo'n dymuno defnyddio'r fangre dros dro i ddarparu cyfleusterau gamblo. Byddai mangreoedd y gellid eu hystyried yn addas ar gyfer hysbysiad o ddefnydd dros dro'n cynnwys gwestai, canolfannau cynhadledd a lleoliadau chwaraeon.

Gellir ond rhoi Hysbysiad o Ddefnydd Dros Dro i berson neu gwmni y mae ganddo drwydded gweithredu casino nad ydynt yn rhai anghysbell a darparu cyfleusterau ar gyfer hapchwarae cyfle cyfartal yn unig (ac eithrio'r defnydd o beiriannau hapchwarae).

Hysbysiadau Defnydd Achlysurol

Mae Hysbysiadau o Ddefnydd Achlysurol yn caniatáu betio ar drac heb yr angen am drwydded eiddo lawn. Gellir ond defnyddio hysbysiad defnydd achlysurol am wyth niwrnod neu lai mewn blwyddyn galendr. Rhaid rhoi Hysbysiad o Ddefnydd Achlysurol i berson sy'n gyfrifol am weinyddu digwyddiadau ar y trac neu gan ddeiliaid y trac. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad i'r Heddlu hefyd. Dim ond gweithredwyr betio trwyddedig all roi cyfleusterau betio sy'n dibynnu ar Hysbysiad o Ddefnydd Achlysurol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael aw wefan Y Comisiwn Gamblo