Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaeth Lles Addysg

Mae gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg (SLlA) a fydd yn cyfarfod â’r ysgol ac asiantaethau eraill i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar faterion yn ymwneud â phresenoldeb/absenoldeb disgyblion a materion lles cyffredinol disgyblion.

Mae'r arweiniad ar gyfer presenoldeb yn yr ysgol, yn dweud ei bod yn bwysig cydweithio, gan amlinellu cyfrifoldebau clir i bawb.

Os oes gennych bryderon am bresenoldeb eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol yn y lle cyntaf a gofynnwch am gael cyfarfod â nhw i gydweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus. Dylai’r ysgol allu trafod a chynnig rhai addasiadau, yn y tymor byr, a fydd yn helpu’ch plentyn i fynychu’n rheolaidd. Gallai hyn fod ar ffurf newidiadau yn y diwrnod ysgol i gael mynediad at asiantaethau a gwasanaethau allanol a all gynnig cymorth.

Os nad ydych wedi gweld unrhyw welliant yn dilyn eich cyswllt â'r ysgol ac yr hoffech drafod y mater ymhellach, gall y SLlA roi cymorth a chyngor. Gwiriwch gydag ysgol eich plentyn i weld a oes SLlA ar gael.

Nod y Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA) yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i dderbyn addysg addas a chael addysg mewn amgylchedd diogel.

Rydym yn cyflawni nifer o swyddogaethau statudol yn enwedig ym meysydd presenoldeb ysgol a rheoleiddio darpariaeth.

Mae’r GLlA yn darparu cymorth i ysgolion, disgyblion a rhieni i sicrhau presenoldeb rheolaidd ac maent yn mynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag absenoldeb. Mae'r gwasanaeth yn cydgysylltu ag asiantaethau eraill ac yn darparu cyswllt pwysig rhwng y cartref a'r ysgol gan helpu rhieni ac athrawon i weithio mewn partneriaeth er mwyn i ddisgyblion elwa o'r cyfleoedd addysgol sydd ar gael yn lleol.

Mae’r GLlA yn gweithredu ar ran yr awdurdod lleol wrth orfodi dyletswydd rhiant i ddarparu addysg briodol. Prif swyddogaeth y GLlA yw gwella presenoldeb cyffredinol a lleihau absenoldebau cyson ym mhob ysgol ac addysg amgen.

Gellir cyflawni hyn drwy;

  • hyrwyddo a chefnogi polisïau presenoldeb ysgol gyfan;
  • darparu cyngor ar arfer da profedig;
  • cydweithio â staff ysgol, disgyblion, rhieni a phobl eraill berthnasol ar raglenni y bwriedir iddynt wella lefelau presenoldeb;
  • ymgymryd â gwaith unigol gyda disgyblion;

Yr awdurdod lleol yn unig all gymryd camau cyfreithiol i orfodi presenoldeb.

Cyngor ac arweiniad

Bydd y Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA): yn darparu cefnogaeth broffesiynol o ansawdd uchel i sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn cyflawni’u rhwymedigaeth statudol i anfon eu plentyn(plant) i’r ysgol yn rheolaidd. Rhoddir y cyngor hwn i weithwyr proffesiynol eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot a, lle bo angen, awdurdodau lleol eraill i helpu i atal plant rhag colli addysg.

Bydd y cymorth a’r cyngor proffesiynol hwn yn cyfrannu at ymgyrch yr awdurdod lleol a’r ysgol ar gyfer effeithiolrwydd ysgolion a chynhwysiad dysgwyr.

Monitro presenoldeb yn yr ysgol

Rydym yn monitro presenoldeb yn yr ysgol yn erbyn targedau’r llywodraeth ac yn datblygu polisïau a gweithdrefnau strategol mewn partneriaeth ag ysgolion ac asiantaethau eraill i wella perfformiad. Cydgysylltu â disgyblion a’u teuluoedd, ysgolion ac asiantaethau cymorth eraill i fynd i’r afael â phroblemau sy’n arwain at bresenoldeb gwael unigolion.

Yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud

Mae’r Ddeddf Addysg yn nodi'n glir bod yn rhaid i rieni sicrhau bod eu plentyn sydd o oedran ysgol yn cael addysg reolaidd, amser llawn ac addas. I'r rhan fwyaf o rieni, mae hyn yn yr ysgol. Mae’n rhaid i blant fynychu'r ysgol y maent wedi'u cofrestru ynddi. Yr ysgol yn unig all awdurdodi absenoldeb plentyn. Os nad yw plentyn wedi'i gofrestru, neu os nad yw'n mynychu ysgol, gall Cyngor Castell-nedd Port Talbot gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y rhiant/gofalwr, os ystyrir ei fod yn briodol.

Gweithio ar y cyd

Cydweithio ag ysgolion ac asiantaethau eraill i helpu i leihau troseddau ieuenctid, trwy leihau absenoldebau cyson; gellir gwneud hyn hefyd gyda’r Heddlu drwy 'batrolau triwantiaeth' i helpu i atal pobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf o ddechrau ymwneud â gweithgareddau troseddol. Rydym hefyd yn cydweithio â'r gwasanaethau cymdeithasol i helpu gyda diogelu a lles pob disgybl ynghyd â Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot.

Cysylltu â ni

Trwy eich Swyddog Lles Addysg ysgolion:

Gwasanaeth Lles Addysg
(01639) 763600 (01639) 763600 voice +441639763600