Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Addysg Gartref Ddewisol

Gwybodaeth i Rieni am Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE)

Mae addysg gartref yn opsiwn y mae teuluoedd o bob cefndir yn ei ystyried i ddiwallu anghenion eu plant. Mae sawl ffordd wahanol o addysgu plant gartref ac mae rhieni/gofalwyr yn rhydd i ddefnyddio pa ddull bynnag sy'n iawn iddynt hwy a'u plant.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi llunio nodiadau arweiniol i roi gwybodaeth i rieni/ofalwyr sy'n ystyried addysgu eu plant gartref neu wedi penderfynu ar hynny.

Addysgu’ch plentyn yn y cartref

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn parchu ac yn derbyn hawl rhieni i addysgu eu plant yn y cartref.

Mae'r nodiadau arweiniol hyn yn cynnig gwybodaeth i rieni sy'n ystyried addysgu eu plant yn y cartref neu sydd eisoes wedi penderfynu gwneud hynny.

Mae gan CBS Castell-nedd Port Talbot Swyddog Cefnogi Addysg Ddewisol yn y Cartref sy'n gweithio gyda rhieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref.

*Bydd rhieni hefyd yn cyfeirio at y rheini sydd â chyfrifoldeb rhiant e.e. gofalwyr.

Pam addysgu yn y cartref?

Mae addysg gartref yn opsiwn y mae teuluoedd o bob cefndir yn ei ystyried i ddiwallu anghenion eu plant. Mae sawl ffordd wahanol o addysgu plant gartref ac mae rhieni/gofalwyr yn rhydd i ddefnyddio pa ddull bynnag sy'n iawn iddynt hwy a'u plant.

Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am addysgu eich plentyn?

Mae Deddf Addysg 1996 yn nodi bod gan riant plentyn o oedran ysgol gorfodol (5-16 oed) ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod ei blentyn yn derbyn "'addysg amser llawn effeithlon sy'n addas i'w oedran, ei allu a'i gymhwyster ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig y gallai fod ganddo, naill ai drwy fynychu ysgol yn rheolaidd neu mewn ffordd arall."

Nid oes unrhyw ddiffiniad ar gyfer 'effeithlon' ac 'addas' yn y ddeddf, ond ystyrir bod yr addysg yn effeithlon os yw'n cyflawni'r hyn mae'n ceisio ei gyflawni, ac yn addas os bydd yr addysg yn paratoi'r plentyn am fywyd yn y gymdeithas fodern, gan alluogi'r plentyn i gyflawni ei botensial llawn.

Mae'r ddeddf yn rhoi'r hawl i rieni addysgu eu plant oedran ysgol gorfodol yn y cartref os yw'r addysg yn addas i oedran, allu, ddawn ac unrhyw anghenion addysgol arbennig y plentyn.

Fel yr Awdurdod Lleol, mae gan CBS Castell-nedd Port Talbot ddyletswydd i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg addas, ac fel rhieni sy'n addysgu eich plentyn, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am yr addysg rydych yn ei darparu i'ch plant.

Gallai'r wybodaeth hon gynnwys:

  • Trafodaeth o'r nodau addysgol gyda chynrychiolydd o'r Awdurdod Lleol
  • Darparu samplau o waith y plentyn
  • Darparu gwybodaeth am gynnydd addysgol eich plentyn dros gyfnod penodol
  • Darparu rhaglen waith
  • Darparu rhestr o lyfrau a deunyddiau eraill a ddefnyddir
  • Enwi unrhyw bobl eraill a ddefnyddir wrth addysgu’r plentyn
  • Darparu unrhyw dystiolaeth addas arall e.e. llunio adroddiad

Hysbysiad o benderfyniad i addysgu yn y cartref

Os yw’ch plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae angen i chi ysgrifennu at y Pennaeth gan roi gwybod iddynt eich bod chi am addysgu eich plentyn y tu allan i'r ysgol. Yna, bydd yr ysgol yn tynnu enw eich plentyn oddi ar gofrestr yr ysgol.

Fel Awdurdod Lleol, er nad oes gennych ddyletswydd i wneud hynny, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn rhoi gwybod i ni yn:

Tîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Llawr Cyntaf y Ganolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ

Os yw eich plentyn o oedran cyn ysgol (yn iau na 5 oed), nid oes yn rhaid i chi wneud unrhyw beth. Fodd bynnag, fel yr Awdurdod Lleol, byddem yn gwerthfawrogi petaech yn rhoi gwybod i ni o'ch bwriad i addysgu yn y cartref.

Cyswllt gan yr ALl ar ôl i enw eich plentyn gael ei ddileu oddi ar gofrestr yr ysgol

  1. Byddwch yn derbyn llythyr cyswllt cychwynnol a thaflen wybodaeth i'w chwblhau
  2. Byddwch yn derbyn llythyr yn cynnig apwyntiad ar gyfer ymweliad cartref gyda'r Gweithiwr Cefnogi Addysg Ddewisol yn y Cartref.
  3. Mae'r ymweliad cartref yn gyfle i drafod yr addysg rydych yn ei darparu i'ch plentyn yn y cartref ac i ddarparu unrhyw gefnogaeth ac arweiniad a allai fod o gymorth i chi
  4. Yn dilyn yr ymweliad cartref cychwynnol, caiff ymweliadau eu cynnig unwaith y flwyddyn.
  5. Os oes gan yr ALl bryderon am yr addysg rydych yn ei darparu, byddwn yn gofyn am ymweliadau mwy aml er mwyn cynnig cyngor o ran unrhyw gamau gweithredu adferol y dylid eu cymryd ac i fonitro'r sefyllfa.

Y gobaith yw y caiff y rhan fwyaf o broblemau eu datrys ond os bydd yr ALl yn parhau i fod yn anfodlon yna mae gan yr ALl bwerau cyfreithiol i ofyn i chi gofrestru eich plentyn mewn ysgol a enwir.

Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae hawliau rhieni i addysgu eu plentyn yn y cartref yr un mor berthnasol os bydd gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hyn yn berthnasol os oes gan blentyn ddatganiad o ADY neu beidio. 

Os oes gan blentyn sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref ddatganiad o anghenion addysgol, mae gan yr ALl ddyletswydd i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu. Mae angen i'r datganiad fod mewn grym ac mae'n rhaid i'r ALl sicrhau eich bod chi'n cynnig darpariaeth addas. Os yw eich trefniadau'n addas, ni fydd dyletswydd ar yr ALl i drefnu'r ddarpariaeth a nodwyd yn y datganiad mwyach. Fodd bynnag, os bydd eich cynnig ar addysgu eich plentyn yn y cartref yn arwain at ddarpariaeth nad yw'n diwallu anghenion eich plentyn, yna nid ydych yn darparu 'trefniadau addas' ac efallai bydd angen i'r ALl drefnu darpariaeth yn yr ysgol. Hyd yn oed os bydd yr ALl yn fodlon, mae gan yr ALl ddyletswydd o hyd i gynnal datganiad o anghenion addysgol eich plentyn a bydd yn ei adolygu'n flynyddol.

Rhaglen Astudio

Os bydd rhieni'n penderfynu addysgu eu plant yn y cartref, ni fydd unrhyw gymorth ariannol o'r ALl.

Bydd Swyddog Cefnogi Addysg Ddewisol yn y Cartref yr ALl yn gallu cynnig cyngor ar gynllunio cwricwlwm, ffynonellau adnoddau dysgu a dolenni i addysgwyr cartref a grwpiau cefnogaeth eraill.

Mae gan rieni sy'n addysgu yn y cartref ryddid sylweddol wrth gynllunio addysg eu plant. Nid oes angen iddynt ddilyn oriau, dyddiau na thymhorau ysgol, dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol na dewis astudio unrhyw bynciau gorfodol.

Os ydych chi am i'ch plentyn sefyll arholiadau TGAU neu ddychwelyd i’r system ysgol yn y dyfodol, bydd angen ystyried gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Beth yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol?

Arweiniad y llywodraeth i ysgolion a rhieni yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar y ddarpariaeth a fyddai'n helpu i greu cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol a gwahaniaethol.

Y pynciau craidd yw Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a TGCh. Ymysg y pynciau eraill y gellir eu cynnig i greu cwricwlwm eang a chytbwys mae: Hanes, Daearyddiaeth, Ieithoedd Tramor Modern, Technoleg, Celf a Dylunio, Cerddoriaeth, etc.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y Cwricwlwm Cenedlaethol yn www.cymru.gov.uk

Nid oes rhaid i blant aros tan eu bod ym mlwyddyn 11 i sefyll arholiadau TGAU. Mae nifer o sefydliadau dysgu o bell sy'n gallu darparu'r holl waith a’r gwaith paratoi ar gyfer yr arholiadau ond bydd angen i chi ddod o hyd i ganolfan a fydd yn caniatáu plant i sefyll yr arholiadau fel ymgeiswyr allanol.

Yn olaf

Os ydych yn ystyried addysgu eich plant y tu allan i'r ysgol, fe'ch cynghorir i ystyried yr holl egni, amser ac ymroddiad y bydd eu hangen arnoch.

Peidiwch â thynnu eich plentyn allan o'r ysgol am eich bod chi wedi anghytuno â'r pennaeth. Os mai dyma’r achos, gallwch drefnu i gwrdd â'r pennaeth i drafod unrhyw broblemau. Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Cefnogi Ysgolion a Theuluoedd yr ALl.

Sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth

Cyfarwyddiadau i AL8 6AN
Gwasanaeth Ymgynghori Addysg Gartref
P.O Box 98 Welwyn Garden City Herts AL8 6AN pref
(01707) 371854 (01707) 371854 voice +441707371854
Cyfarwyddiadau i HR5 3DJ
Education Otherwise Association
61 Bridge Street Kington HR5 3DJ pref
(0300) 1245690 (0300) 1245690 voice +443001245690
Gyrfa Cymru
(0800) 028 4844 (0800) 028 4844 voice +448000284844