Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cynllun Corfforaethol yn datgelu gweledigaeth wyrddach, lanach a mwy ffyniannus ar gyfer Castell-nedd Port Talbot

NOD CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT yw sicrhau fod pob plentyn lleol yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, bod preswylwyr yn mwynhau bywydau maith ac iach gyda swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda, a bod yr ardal yn dod yn gyrchfan o ddewis ar gyfer byw, gweithio a hamddena.

Cynllun Corfforaethol yn datgelu gweledigaeth wyrddach, lanach a mwy ffyniannus ar gyfer Castell-nedd Port Talbot

Mae’r amcanion llesiant uchelgeisiol hyn wrth galon Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer   2024-2027, Gweithio tuag at CNPT mwy ffyniannus, tecach a gwyrddach.

Mae’r cynllun, a gymeradwywyd gan y cyngor yn ei gyfarfod ddydd Gwener 26 Gorffennaf 2024, yn manylu ar uchelgais y cyngor a’r gweithredoedd y mae angen eu cyflawni nawr ar y cyd â phreswylwyr, busnesau a phartneriaid eraill i’w cyflawni.

Serch hynny, pwysleisiodd adroddiad gan uwch-swyddogion y cyngor fod y cyd-destun ariannol ar gyfer y dyfodol agos yn ‘eithriadol o heriol’, er bod sawl cyfle da hefyd.

Dywed yr adroddiad: “Mae Llywodraeth Cymru’n awgrymu na fydd dim cynnydd yn y Grant Cefnogi Refeniw (arian gan y Llywodraeth a roddir i gynghorau i gynnal gwasanaethau) ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2025-26). Mewn cyfnod pan welir mwy o alw am ein gwasanaethau, gallai’r bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2025-26 fod yn rhyw £20m.

“Nid yw’n glir a fydd y Llywodraeth Lafur newydd yn darparu unrhyw gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru er mwyn lliniaru hyn.”

Atgoffwyd aelodau’r Cabinet fod y cyngor, dros y ddwy flynedd ariannol gythryblus ddiwethaf – yn nannedd rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol ac Wcráin, chwyddiant digynsail ac effeithiau Brecsit – wedi wynebu costau ychwanegol o £70m, ond mai dim ond £26.9 yn ychwanegol a dderbyniwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Steve Hunt: “Mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn gofyn am help oddi wrth ein gwasanaethau cymdeithasol nawr, mwy o bobl yn datgan eu bod nhw’n ddigartref a mwy o blant angen mwy o help yn yr ysgol ac ar gyfer teithio i’r ysgol.

“Mae rhaglen ddatgarboneiddio Tata Steeel, a allai weld diwedd ar wneud dur yn y dull traddodiadol ym Mhort Talbot, yn ychwanegu gwedd strategol bellach i’r dirwedd hon.

“Serch hynny, rydyn ni wedi denu prosiectau o bwys yma gyda’r potensial i greu nifer fawr iawn o swyddi cynaliadwy, gan gynnwys ein statws Porthladd Rhydd arobryn ar gyfer Dociau Port Talbot. Drwy ddod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer y sector Gwynt Arnofiol Arfordirol (FLOW) sy’n tyfu mor gyflym, gallai hynny ynddo’i hunan greu rhai miloedd o swyddi gwyrdd newydd.

“Er bod llawer o heriau o’n blaenau, rydyn ni’n dal i deimlo’n galonnog ac uchelgeisiol ar ran ein bwrdeistref sirol.”

Mae’r cyngor wedi sefydlu naw ‘rhaglen drawsnewidiol’ i gyflawni’i amcanion craidd, er y nodwyd y bydd setliadau cyllideb a chyllid grant i’r dyfodol yn effeithio sut y byddant yn datblygu.

Ar gyfer pob amcan llesiant, gosododd y cyngor ddeilliannau hirdymor y mae’n dymuno’u cyflawni:

Amcan 1 Pob plentyn i gael y dechrau gorau mewn bywyd… Bydd plant a phobl ifanc yn ddysgwyr uchelgeisiol, abl, yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn ddinasyddion moesegol, gwybodus, ac yn unigolion iach a hyderus.

Amcan 2 Pob Cymuned yn ffynnu ac yn gynaliadwy… Bydd anghydraddoldebau mewn deilliannau iechyd, economaidd a chymdeithasol yn cael eu lleihau, a bydd pobl yn cymryd mwy o ran mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt ac yn cymryd nwy o ran ym mywyd eu cymuned.

Amcan 3 Gall ein hamgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol gael eu mwynhau gan genedlaethau’r dyfodol… Bydd pobl yn rhoi gwerth ar ein hamgylchedd naturiol lleol ac yn ei hanwylo, a bydd y lleihad mewn bywyd gwyllt yn cael ei drawsnewid, wrth i’n safleoedd mwyaf gwerthfawr gael eu gwella a’u cysylltu drwy gyfrwng coridorau gwyrdd.

Amcan 4 Gan weithio gyda’n partneriaid, rydyn ni’n creu amodau ar gyfer gwaith gwyrdd mwy diogel sy’n talu’n dda, a byddwn ni’n cefnogi pobl leol i fynd i mewn i’r swyddi hyn… Bydd trawsnewidiad ar safleoedd o bwys ym Mhort Talbot, bydd Parc Ynni Baglan a mannau eraill yn darparu manteision economaidd newydd o bwys a ddarperir drwy ddatgarboneiddio diwydiant, tai a thrafnidiaeth, a gweld yr ardal yn dod yn esiampl ar gyfer defnyddio ynni glân.

hannwch hyn ar: