Datganiad I'r Wasg
Cyfres o ddigwyddiadau galw heibio er mwyn ceisio helpu busnesau canol trefi i ffynnu
Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal digwyddiadau galw heibio er mwyn rhoi gwybodaeth werthfawr i fusnesau canol trefi am grantiau, cymorth busnes ac adnoddau eraill i'w helpu i ffynnu.
Bydd y digwyddiadau Ymgysylltu â Busnesau Canol Trefi yn rhoi cyfle i weithredwyr busnesau gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â swyddogion y cyngor a gwasanaethau allweddol fel Cymorth i Ganol Trefi, CNPT Mwy Diogel a'r tîm Busnes a Datblygu Economaidd.
Bydd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt, hefyd yn bresennol yn y tri digwyddiad i drafod yr heriau sy'n wynebu'r bobl sy'n rhedeg siopau, caffis, tafarndai a busnesau hanfodol eraill yng nghanol ein trefi – a'r cyfleoedd sydd ar gael er mwyn iddynt gael cymorth.
Bydd cyfle i'r gweithredwyr busnesau archwilio amrywiaeth o gyfleoedd cyllido a grantiau, cael cyngor wedi'i deilwra ac archwilio mathau eraill o gefnogaeth sydd ar gael er mwyn helpu eu busnesau i wella.
Manylion y digwyddiadau:
- PONTARDAWE – Dydd Mawrth, 4 Mehefin, 5-7pm, Canolfan Celfyddydau Pontardawe.
- PORT TALBOT – Dydd Iau, 6 Mehefin, 5-7pm, Theatr y Dywysoges Frenhinol.
- CASTELL-NEDD – Dydd Mawrth, 18 Mehefin, 5-7pm, Neuadd Gwyn.
Er mai ym Mhontardawe, Port Talbot a Chastell-nedd y caiff y digwyddiadau AM DDIM hyn eu cynnal, bydd croeso i weithredwyr busnesau o ganol trefi a phentrefi eraill Castell-nedd Port Talbot, fel Sgiwen, Glyn-nedd, Ystalyfera, Cymer, Tai-bach, Margam, Llansawel, Cwmafan a llawer mwy.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Hunt: “Mae'r fenter hon yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i feithrin cymuned fusnes fywiog a llewyrchus ledled Castell-nedd Port Talbot.
“Rydym yn ymroddedig i gefnogi ein busnesau lleol, gan sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr adnoddau y bydd eu hangen arnynt i lwyddo.
“Bydd y digwyddiadau hyn yn gyfle i weithredwyr busnesau gael cymorth a chyngor yn uniongyrchol gan y cyngor a'n sefydliadau partner a rhoi adborth i ni ar yr amodau sy'n wynebu ein gweithredwyr busnes gweithgar.”
Ymhlith y sefydliadau a'r bobl eraill a fydd yn bresennol yn y digwyddiadau mae timau Adfywio, Trwyddedu, Safonau Masnach, Bwyd a Diogelu Iechyd a Chydgysylltydd Masnachol (cyfleoedd hysbysebu) y cyngor, NPT Mwy Diogel, y Bartneriaeth Gostwng Troseddu yn erbyn Busnesau a Swyddog Rhanbarthol Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Isod ceir dolen ar gyfer busnesau a hoffai drefnu lle ymlaen llaw, gan y bydd hyn yn ein helpu i gael syniad o'r niferoedd a fydd yn bresennol. Fodd bynnag, bydd croeso hefyd i fusnesau alw heibio mewn unrhyw leoliad unrhyw bryd.
Dolen Trefnu Lle: https://npttowncentresevents.evolutive.co.uk/cy/event-search/