Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Y Cyngor yn Lansio Cronfa er mwyn Helpu Sefydliadau Cymunedol i Sefydlu Mannau Cynnes

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd sefydliadau cymunedol i wneud cais am grant untro o £1500 er mwyn helpu i sefydlu Mannau Croeso Cynnes ar gyfer trigolion sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â chostau byw o bosibl neu sydd mewn perygl o deimlo'n ynysig.

Y Cyngor yn Lansio Cronfa er mwyn Helpu Sefydliadau Cymunedol i Sefydlu Mannau Cynnes

Lleoedd diogel a chyfforddus lle y gall pobl ddod ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau, cael gafael ar wasanaethau, cael cyngor a chymorth ymarferol yn ogystal â chwrdd â phobl newydd yw Mannau Croeso Cynnes. Mae'n bosibl y bydd pob un o'r Mannau Croeso Cynnes yn edrych yn wahanol; efallai y byddant yn cynnig gweithgareddau, cymorth, neu hyd yn oed fwyd a diodydd poeth. Bydd pob Man Croeso Cynnes ar agor i bawb.

 

Gan adeiladu ar lwyddiant grant cyllid Mannau Cynnes y gaeaf diwethaf, a gefnogodd 26 o brosiectau cymunedol a mwy na 6500 o bobl, hoffai'r cyngor wahodd ceisiadau am gyllid gan sefydliadau cymunedol er mwyn gallu cynnig cymorth ymarferol i bobl mewn angen y gaeaf hwn.

 

Bydd angen i sefydliadau a hoffai gael y cyllid hwn ystyried beth arall y gallant ei ddarparu i bobl a fydd yn defnyddio'r mannau. Gallai hynny gynnwys sesiynau cyngor a chymorth, gweithgareddau, cyfleoedd i ddysgu am bethau newydd, neu fwyd a lluniaeth. Bydd y panel a fydd yn ystyried y ceisiadau yn chwilio am y “gwerth ychwanegol” y gall sefydliadau ei gynnig.

 

Ar y lleiaf, bydd Mannau Croeso Cynnes a gaiff eu cefnogi drwy'r grant hwn yn cynnig amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i bobl. Dylai'r ffocws fod ar ddenu pobl leol a darparu ar eu cyfer a, lle bo modd, ategu gweithgareddau eraill sy'n ennyn diddordeb pobl yn eu cymunedau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jo Hale, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd:

 

“Rydyn ni'n ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb yn ein cymuned rywle i fynd i gael cynhesrwydd a chymorth yn ystod misoedd y gaeaf. Nid yn unig y mae Mannau Croeso Cynnes yn cynnig lloches rhag yr oerfel ond maent hefyd yn gyfle i gysylltu ag eraill, cael gafael ar wasanaethau hanfodol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

 

“Rydyn ni wir yn annog sefydliadau cymunedol sy'n cynnig lle cynnes a chroesawgar i gysylltu â ni.”

 

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio warmwelcomespaces@npt.gov.uk .

 

Dilynwch y ddolen ganlynol i weld y canllawiau a'r meini prawf yn llawn a gwneud cais am gyllid. https://forms.office.com/e/tGuRjJjNHP       

 

Mae cronfa Mannau Croeso Cynnes Castell-nedd Port Talbot wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

hannwch hyn ar: