Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Grymuso Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot: Rhaglen Gorwelion yn Arloesi Llwybrau at Gyflogaeth

Mae Horizons, rhan o Wasanaeth Ieuenctid Cyflogadwyedd CNPT yn helpu pobl 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i ennill sgiliau, profiadau a chymwysterau newydd. Gan weithio mewn partneriaeth â phrosiect ‘Down To Earth’, fe drefnodd Gorwelion gwrs yn ddiweddar oedd yn canolbwyntio ar weld pobl ifanc yn datblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a sgiliau gwaith a all eu helpu i fynd i mewn i swydd.

Dafydd a Taylor yn dysgu sut i goginio yn yr awyr agored gyda Jake wrth i Jason dynnu lluniau.

Anogwyd preswylwyr Castell-nedd Port Talbot, Dafydd, Taylor a Jason, pob un yn 17 oed, i gymryd rhan gan Ieuenctid Horizon a Gweithwyr Cymunedol Dean Austin a Hannah Brier. Roedd Dafydd, Taylor a Jason wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys coginio yn yr awyr agored ar dân naturiol, adnabod planhigion, gweithio gyda'u dwylo ac offer pŵer yn ogystal â gwella eu sgiliau cyfathrebu. Bydd y bobl sy'n cymryd rhan yn y cwrs hefyd yn ennill canlyniad achrededig. 


Meddai Taylor, "Rydw i wedi mwynhau'r cwrs hwn, rwy'n teimlo fy mod i'n well yn siarad â phobl ac rwy'n teimlo'n fwy hyderus am y dyfodol. Meddai Jason, "Roeddwn i'n mwynhau gweithio gydag offer a thynnu lluniau o'r hyn roeddem yn ei wneud orau". Roedd Dafydd wedi mwynhau'r cwrs a theimlodd fod y drefn o gyrraedd y cwrs yn fuddiol iddo. 


Mae'r cwrs nesaf yn canolbwyntio ar greu fideo sy'n cyfleu gweledigaeth y cyfranogwyr o sut brofiad yw Castell-nedd Port Talbot. Bydd y grŵp yn dysgu amrywiaeth o sgiliau gwahanol gan gynnwys creu bwrdd stori, ffotograffiaeth lonydd a fideo, golygu, dewis cerddoriaeth a defnyddio drôn. 


Meddai Dean, "Pen ddechreuodd y rhaglen Horizons roedd gennym nifer o bobl ifanc a oedd yn ynysig yn gymdeithasol ac nad oeddent yn gadael eu cartrefi, fodd bynnag, trwy gefnogaeth gan y rhaglen Horizons maent bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp lle maent yn meithrin cyfeillgarwch, yn ennill sgiliau cyflogadwyedd a chymwysterau." 


Dywedodd Nia Jenkins, Cynghorydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar“Mae rhaglen Gorwelion yn enghraifft o rym trawsnewidiol profiadau dysgu ymarferol wrth lunio dyfodol ein pobl ifanc. Drwy eu harfogi â’r sgiliau hanfodol a meithrin eu hyder, nid yn unig rydyn ni’n eu paratoi ar gyfer cael swydd, rydyn ni’n tanio’u potensial i ffynnu yn y gweithlu a thu hwnt. Mae mentrau fel hyn yn ganolog yn ein nod o greu cyfleoedd cynhwysol i bawb, gan sicrhau nad oes dim doniau’n cael eu hesgeuluso.”


I gael gwybodaeth ynghylch sut y gall Gorwelion neu’r Gwasanaeth Ieuenctid helpu pobl ifanc, ffoniwch 01639 763030 neu chwiliwch am ‘Gwasanaeth Ieuenctid CnPT / NPT Youth Service’ neu ‘Cyflogadwyedd CnPT / NPT Employability’ ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwasanaeth a gyflwynir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw Cyflogadwyedd CNPT, ac fe'i hariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

hannwch hyn ar: