Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Dod â hen gapel yn ôl i ddefnydd yng Nghwm-gwrach – gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU

Bydd hen gapel gwag yn cael bywyd newydd, gan ddarparu gwasanaeth y mae mawr alw amdano gan y gymuned leol yng Nghwm-gwrach, diolch i grant oddi wrth Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

Feithrinfa Ddydd Croeso1

Mae’r perchnogion newydd Samuel a Megan Fender wrthi’n goruchwylio’r prosiect adnewyddu, a fydd ar ôl gorffen yn gartref i Feithrinfa Ddydd Croeso, gan ddarparu gwasanaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i Gwm-gwrach a’r pentrefi cyfagos.  
Bydd adnewyddu hen Gapel Bedyddwyr Calfaria, ar Stryd Fawr Cwm-gwrach, yn gweld trawsnewid yr adeilad di-ddefnydd, gan ei ddychwelyd i ddefnydd ymarferol y gymuned. 


Cafodd yr adeilad, er nad yw wedi’i restru, ei gydnabod fel ‘adeilad o bwysigrwydd lleol’, ac ar ôl iddo fod yn wag dros y blynyddoedd diweddar, mae’r perchnogion newydd yn awyddus i adnewyddu’r eiddo mewn modd sensitif a chynaliadwy, gan gadw’r blaen gwreiddiol, y gwaith maen a’r arwydd, er mwyn cadw’r ochr sy’n wynebu’r parth cyhoeddus fel y bu. Ar y tu mewn, bydd gwaith yn cynnwys trydan, pibelli dŵr, insiwleiddio newydd, waliau styd, cegin ac ystafell ymolchi newydd. Gosodir systemau goleuo a gwresogi ynni-effeithlon hefyd. Bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i ardal yr ardd yn y cefn, gan drawsnewid y lle’n ardal chwarae awyr agored, a fydd yn golygu mwy o blannu gwyrdd a gosod blychau adar.


Cafodd y prosiect adnewyddu cyfalaf ei ariannu’n rhannol drwy gyfrwng Cronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi (VVPF) Cyngor Castell-nedd Port Talbot gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’r VVPF yn grant cyfalaf sy’n rhan o becyn o gynlluniau grantiau gan y Cyngor a alluogwyd diolch i Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.


Mynychodd y perchennog Samuel ddigwyddiad ‘Siarad Busnes’ yng Nglyn-nedd haf diwethaf, i gael cyngor a chefnogaeth o ran ehangu’r busnes, a maes o law fe’i cefnogwyd i wneud cais ariannu i’r Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi, a fu’n llwyddiannus.


Mae’r perchennog Megan, yn ofalwr plant cofrestredig ac arobryn, a fu’n cynnal ei busnes ei hun o’i chartref dros y blynyddoedd diweddar, ac felly bydd y fenter newydd hon yn ei galluogi i ymestyn y busnes a chynyddu faint o blant y gall hi ofalu amdanynt, gan greu swyddi newydd ar yr un pryd. 


Mae gwasanaeth Gofal Plant Croeso eisoes yn fusnes llwyddiannus â chyswllt sydd wedi hen ennill ei blwyf gydag ysgolion cynradd lleol. Bydd Meithrinfa Ddydd Croeso’n darparu gofal plant dwyieithog, gyda’r nod o annog plant i ddysgu Cymraeg o oedran ifanc, ac mae Megan hefyd yn gobeithio defnyddio’r adeilad fel lle i’r gymuned i gynnal gweithgareddau eraill gan gynnwys grwpiau rhiant a phlentyn a yoga i fabis. 


Dechreuodd y gwaith adnewyddu ym mis Ebrill eleni, a gobaith y pâr yw agor y drysau ar eu busnes newydd yn yr hydref.
Meddai’r perchnogion Samuel a Megan Fender: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o gael derbyn y cyllid hwn gan Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi. Mae’r arian yn ein helpu ni i adfer yr adeilad i safon uchel, er mwyn darparu gofal plant y mae cymaint o alw amdano yn yr ardal, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu yn hyn o beth.” 


Yn ôl y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd: “Mae hi’n wych gweld Cyllid Ffyniant Cyffredin y DU yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau lleol, gan eu galluogi i ymestyn a chreu swyddi newydd i’r gymuned, yn ogystal â dod ag adeiladau gweigion yn ôl i ddefnydd da, a fyddai’n para’n wag fel arall. Dyma’r union fath o brosiect y cynlluniwyd y Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi i’w cefnogi. Dymuniadau gorau i Samuel a Megan gyda’r fenter.” 


Gallwch glywed mwy am y prosiect yn y fideo hwn: Meithrinfa Ddydd Croeso – Astudiaeth Achos (youtube.com)
Trefnir digwyddiadau ‘Siarad Busnes’ gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor Castell-nedd  Port Talbot ac fe’u galluogir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.


Gellir cael mwy o fanylion ynghyd â dyddiadau digwyddiadau i ddod yma: Digwyddiadau Busnes | Gwasanaethau Cefnogi Busnes | Castell-nedd Port Talbot (businessinneathporttalbot.com)

 

hannwch hyn ar: