Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Dros 400 o bobl ifanc Castell-nedd Port Talbot i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024

Ar ôl curo’r gystadleuaeth yn yr eisteddfodau cylch a rhanbarth, mae dros 400 o ddisgyblion ysgol o Gastell-nedd Port Talbot wrthi’n paratoi i gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd – Maldwyn 2024.

Aelodau Cor Hyn Ystalyfera fydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni

A hithau’n un o wyliau ieuenctid blynyddol mwyaf Ewrop, cynhelir eisteddfod yr Urdd eleni rhwng Mai 27 a’r cyntaf o Fehefin ar dir hynafol Mathrafal, ym Meifod, ger y Trallwng.

Yn ôl Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar, y Cyng. Nia Jenkins: “Hoffwn ddymuno’n dda i’n holl gynrychiolwyr wrth iddyn nhw gystadlu ar lefel genedlaethol yn yr ŵyl eiconig hon o lên, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio.

“Hoffwn eu llongyfarch hefyd ar ennill eu lle yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, ar ôl dod yn fuddugol yn y rowndiau cyn-derfynol yn y fath niferoedd.

“Rwy’n falch iawn hefyd o weld nifer fawr o gystadleuwyr ar gyfer Eisteddfod yr Urdd o Gastell-nedd Port Talbot yng nghategorïau Dysgwyr y Gymraeg.”

Yn eisteddfod yr Urdd eleni, sy’n disgwyl croesawu rhyw 90,000 o ymwelwyr, gan roi hwb i economi leol Canolbarth Cymru fydd yn werth rhyw £6m, bydd gan gynrychiolwyr o Gyngor Castell-nedd Port Talbot babell i hybu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf – Eisteddfod Dur a Môr, Margam a’r Fro, a gynhelir ym Mharc Gwledig Margam.

Yn y sector Ysgolion Uwchradd gwnaeth disgyblion o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn arbennig o dda, a byddan nhw’n cystadlu sawl gwaith mewn amrywiaeth eang o gategorïau.

Mae band pres o YGG Gwauncaegurwen wedi ennill ei ffordd drwodd i Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 hefyd.

Ymysg ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg eraill o Gastell-nedd Port Talbot a fydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Maldwyn mae YGG Pontardawe, YGG Tyle’r Ynn, YGG Cwmllynfell ac YGG Castell-nedd.

Bydd disgyblion o Ysgol Cwm Brombil yn cystadlu yn adran uwchradd y Dysgwyr Cymraeg mewn Perfformiad theatrig, a’r llefaru unigol, tra bo disgwyl i ddisgyblion o Ysgol Gynradd Cwmafan gystadlu ar lefel Dysgwyr Cymraeg mewn sawl categori cynradd, gan gynnwys y côr a’r gân actol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jenkins: “Yng Nghastell-nedd Port Talbot nid yn unig rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ein disgyblion yn cystadlu yn yr Urdd ym Maldwyn 2024, ond rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn awchus at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Margam 2025, a fydd yn digwydd rhwng Mai 26 a Mai 31 2025.”

 

hannwch hyn ar: