Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Prif Weithredwr newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd yn ymweld â Chastell-nedd Port Talbot

Mae Prif Weithredwr parhaol cyntaf y Porthladd Rhydd Celtaidd, Luciana Ciubotariu, wedi ymweld â Chastell-nedd Port Talbot cyn dechrau yn ei rôl newydd yn swyddogol ym mis Mai.

Prif Weithredwr Cyngor CNPT Karen Jones (chwith) gyda Luciana Ciubotariu ac Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Steve Hunt

Cafodd Luciana, a oedd yn rhan o dîm uwch-reolwyr Porthladd Rhydd Tafwys cyn hyn, ei chroesawu i Ganolfan Ddinesig Port Talbot ar 10 Ebrill 2024 gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyngh. Steve Hunt a Phrif Weithredwr y Cyngor, Karen Jones.

Dywedodd y Cyngh. Hunt: “Roedd yn bleser gennyf groesawu Luciana i Gastell-nedd Port Talbot ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â hi a gweddill tîm y Porthladd Rhydd Celtaidd i ddatblygu coridor ynni gwyrdd ledled de-orllewin Cymru.”

Ychwanegodd Karen Jones: “Yn sicr, Luciana yw'r person cywir i arwain y Porthladd Rhydd Celtaidd gan fod ganddi'r cefndir, y weledigaeth a'r uchelgais i sicrhau y caiff potensial gwirioneddol drawsnewidiol y Porthladd Rhydd ei wireddu'n llawn ar gyfer ein cymunedau, ein busnesau a hefyd economi ehangach Cymru.”

Consortiwm cyhoeddus-preifat yw'r Porthladd Rhydd Celtaidd, ac ymhlith ei bartneriaid mae Associated British Ports (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ynghyd â datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwmnïau ynni, safleoedd diwydiannol, asedau arloesi, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg.

Mae'n cwmpasu porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot, a datblygiadau ynni glân fel ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, gwaith arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf bŵer, peirianneg drom a'r diwydiant dur ledled de-orllewin Cymru.

Ochr yn ochr â'r penodiad arweinyddol arwyddocaol sy'n golygu mai Luciana Ciubotariu yw ei Brif Weithredwr parhaol cyntaf, mae'r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi cwblhau rhan fawr gyntaf ei daith ddatblygu, drwy gyflwyno achos busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

I nodi'r ffaith y bydd yn symud o'r cam gwneud cais i'r cam datblygu ac, yn y pen draw, i'r cam gweithredol, mae'r Porthladd Rhydd wedi ailwampio ei bresenoldeb digidol, drwy gyflwyno gwefan newydd a sianeli cyfryngau cymdeithasol (LinkedIn, X a YouTube).

hannwch hyn ar: