Datganiad I'r Wasg
Prosiect Cysylltiadau Arfordirol Castell-nedd Port Talbot – Grymuso Pobl ac Adfer Natur
Diolch i arian oddi wrth gynlluniau Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gallu cyhoeddi’i brosiect diweddaraf – Cysylltiadau Arfordirol!
Bydd prosiect Cysylltiadau Arfordirol yn digwydd tan fis Mawrth 2025.
Mae’r prosiect wedi ymrwymo i gysylltu cymunedau Castell-nedd Port Talbot â’n harfordir lleol, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt anhygoel a geir ar ein glannau, ac ysbrydoli pobl, grwpiau a busnesau i weithredu er budd ein moroedd.
Drwy gydol y prosiect, byddwn ni’n:
- Darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, sesiynau hyfforddi, a chyfleoedd i wirfoddoli.
- Rhoi cyngor a chefnogaeth i fusnesau yn Aberafan sy’n gobeithio gwneud gwelliannau i’w harferion a’u hadeiladau er budd bioamrywiaeth.
- Gwella glan y môr er budd bioamrywiaeth, gan gynnwys creu ‘ton o flodau gwyllt’ ar hyd rhan o’r lan, a gosod tri strwythur to gwyrdd.
- Gwneud gwaith adfer twyni tywod yn Nhwyni Baglan i atal erydu pellach ar y cynefin.
Drwy gydol y prosiect, bydd staff yn ceisio barn a chefnogaeth gan bobl leol i helpu i ddatblygu cymuned fywiog, gynhwysol a chyfranogol sydd wedi ymrwymo i ofalu am ein hamgylchedd arfordirol lleol a’i chyfoethogi.
Mae’r prosiect ond yn dechrau ar hyn o bryd, felly cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol CnPT a Bywyd Gwyllt CnPT i gael diweddariadau ac i glywed am ddigwyddiadau sydd ar y gweill.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy neu os hoffech gymryd rhan yn y prosiect hwn, cysylltwch â’n Cydlynydd Amgylchedd Arfordirol a Morol, Chloe Angelone c.angelone@npt.gov.uk.