Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Calon Ddramatig Cymru yn lansio teithlenni teithiau grŵp

Ym mis Mawrth aeth Calon Ddramatig Cymru - tîm twristiaeth Castell-nedd Port Talbot – i Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain (BTTS) i nodi lansio teithlenni teithio grŵp wedi'u dylunio i groesawu mwy o ymwelwyr i'r rhanbarth.

Parc Margam

Cynhaliwyd BTTS ar 20 - 21 Mawrth yn yr NEC, Birmingham. Ar eu stondin ym mhafiliwn Croeso Cymru fe gafodd tîm Calon Ddramatig Cymru y cyfle i gwrdd â channoedd o gwmnïau teithio, cwmnïau bysiau moethus, trefnwyr teithio a phobl broffesiynol yn y byd teithio yn y gynhadledd fwyaf yng nghalendr masnach deithio'r DU.

Gan hyrwyddo ymweliadau dros nos i Gastell-nedd Port Talbot, rhoddodd y Sioe y cyfle i dîm twristiaeth y Cyngor i lansio teithlenni penodol sy'n awr yn cael eu cynnig i drefnwyr teithiau grŵp.

Gydag opsiynau ar gyfer gwestai i grwpiau, parcio i fysiau moethus, gweithgareddau ac atyniadau i grwpiau, mae modd teilwra'r teithlenni i siwtio maint a dewisiadau'r grwpiau, tra'n dangos rhyfeddodau tirwedd, cymoedd a dyffrynnoedd Calon Ddramatig Cymru.

Meddai Karleigh Davies, Rheolwr Economi Ymwelwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Roedd mynychu Sioe Dwristiaeth a Theithio Prydain yn ffordd wych i lansio’n swyddogol y teithlenni grŵp sydd ar gael nawr. Mae croeso i grwpiau o bob maint, oedran a diddordeb i archwilio popeth sydd gan y rhanbarth hon i'w gynnig: mae'r ardal yn gyforiog o safleoedd treftadaeth a thrysorau hanesyddol cudd, yn ogystal ag olion balch o'n gorffennol diwydiannol.

 

"Gan ein bod wedi ein lleoli'n gyfleus ar hyd yr M4 a'r A465, mae grwpiau sy'n teithio ar fws moethus i Gymru yn cael eu hannog i ychwanegu arhosiad yng Nghastell-nedd Port Talbot - boed hynny am gyfnod eu taith i gyd neu i helpu i dorri'r daith ymhellach i orllewin Cymru. Mae atyniadau hygyrch fel Pharc Gwledig Margam a Sgwd Henryd dafliad carreg o'r draffordd sy'n golygu y gallai grwpiau ychwanegu ymweliad yn hawdd tra'u bod ar y ffordd i rywle arall.

"Er ein bod yn aml yn cael ein hystyried fel y gwannaf o atyniadau twristiaeth Cymru, mae ein tirwedd yn cynnig microcosm o dirweddau syfrdanol Cymru. Mae ein cymoedd, ein mynyddoedd, ein hafonydd, ein harfordir a'n parciau gwledig yn em yng nghoron de Cymru, ac mae taith grŵp i'r rhanbarth yn caniatáu i ymwelwyr gael blas ar bob un o'r nodweddion hyn o wyliau yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd llawer o'r trefnwyr teithiau grŵp y bu i ni gyfarfod â nhw yn BTTS yn derbyn ein gwahoddiad i'r rhanbarth, gan ein bod yn gwybod y byddai ein gwestai, ein cartrefi gwyliau, ein mannau gwely a brecwast, ein llefydd bwyta a'n hatyniadau wrth eu bodd yn croesawu hyd yn oed mwy o dwristiaid i Gastell-nedd Port Talbot."

I wneud cais am deithlen unigryw ar gyfer eich grŵp, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio contact@dramaticheart.wales neu ffoniwch  01792 460200.

Ymgyrch Farchnata Calon Ddramatig Cymru yw'r ymgyrch dwristaidd sy'n cael ei chynnal gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.  Nod yr ymgyrch yw denu ymwelwyr sy'n aros ac ymwelwyr dydd i'r ardal leol.

hannwch hyn ar: