Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Hwb ariannol i’r cynllun i ystyried dyfodol hirdymor Camlesi Tennant a Chastell-nedd

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau £113,850 oddi wrth fenter Mannau Treftadaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi datblygu prosiect Canal Connections / Cysylltiadau Camlesi.

Ty Clo, Tonna

Bydd y cyngor yn defnyddio’r arian i ddatblygu astudiaeth arfarnu opsiynau gynhwysfawr i archwilio sut y gellir defnyddio Camlesi Tennant a Chastell-nedd i’r dyfodol, gan gydnabod eu harwyddocâd a’u treftadaeth unigryw, a beth ellir ei gynnig i bobl a chymunedau ar hyd eu glannau. Mae perchnogion tir y ddwy ddyfrffordd bwysig hyn yn chwarae rhan annatod wrth symud ymlaen i benderfynu ar ddefnydd cynaliadwy hirdymor ar gyfer ein camlesi yn y dyfodol.

Bydd yr astudiaeth yn rhan o brosiect cam-wrth-gam hirdymor Canal Connections / Cysylltiadau Camlesi fydd yn gweithio i sicrhau mwy o arian i adfywio’r system gamlesi mewn dull cynaliadwy er mwyn eu troi’n ased cymunedol hygyrch ar gyfer teithio llesol a hamdden, a’u sefydlu fel cyrchfan dreftadaeth sy’n cysylltu cymunedau lleol.

Mae’r ddwy gamlas yn gyforiog o dreftadaeth, gan gynnwys tair heneb restredig, nifer fawr o Adeiladau Rhestredig Gradd II, 27 adeilad / strwythur o ddiddordeb lleol ac Ardal Gadwraeth (Depo Camlas Castell-nedd).

Mae’r camlesi’n galluogi preswylwyr i ailgysylltu â natur a’r cymunedau ar eu hyd, gan gysylltu canol y dref i ardaloedd yn y cymoedd. Cydnabyddir pwysigrwydd y mannau hyn ar iechyd a llesiant pobl, am y gall y dyfrffyrdd hyn gael eu gwella i ddarparu llecynnau glas glân ar gyfer gweithgareddau hamdden lleol ble mae bioamrywiaeth leol yn ffynnu.

Agorwyd Camlas Castell-nedd yn 1795 ac mae’n mesur 13 milltir, gan fynd o Lansawel drwy ganol tref Castell-nedd ar hyd Cwm Nedd i Lyn-nedd. Agorwyd Camlas Tennant yn 1824: mae’n wyth milltir o hyd o Jersey Marine drwy Sgiwen, gan ymuno â Chamlas Castell-nedd yn Aberdulais.

Drwy warchod a gwella’r asedau treftadaeth hyn, mae potensial i gynyddu ffyniant economaidd drwy gyfrwng adfywiad a arweinir gan dreftadaeth. Bwriad y cam cyntaf hwn o’r gwaith yw comisiynu astudiaeth ddichonolrwydd i addysgu arfarniad dewisiadau cyffredinol ar gyfer adfer Camlesi Tennant a Chastell-nedd.

Yn ôl Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Yn hanesyddol, roedd rhwydwaith y camlesi wrth galon y modd y tyfodd ac y ffynnodd cymunedau a diwydiant yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd Cysylltiadau Camlesi’n eu cadw wrth galon bywyd cymunedol, gyda rôl newydd, a chreu cyfleoedd newydd.

“Bydd y camlesi ynghanol darparu adfywiad ar sail treftadaeth, gallan nhw gefnogi llecynnau glas ar gyfer hamdden ac ymarfer corff, cefnogi adferiad natur a bioamrywiaeth, a chysylltu pobl a chymunedau, gan greu cysylltiadau newydd ar sail y rhwydwaith trafnidiaeth hanesyddol hwn.

“Mae Cysylltiadau Camlesi’n rhan o’n hymrwymiad Lleoedd Treftadaeth dros ddeng mlynedd i Gastell-nedd Port Talbot, a gyhoeddwyd y llynedd. Mae buddsoddi mewn pobl a’u hanes, gan sicrhau eu bod nhw’n rhan weithredol o lywio adfywiad a dathlu treftadaeth y man lle maen nhw’n byw, yn adeiladu cymuned gryfach a mwy gwydn. Rydyn ni’n gweld manteision ymrwymo’n hirdymor er mwyn peri i newid cynaliadwy ddigwydd.”

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant, y Cynghorydd Cen Phillips: “Mae ein camlesi’n adnodd gwych o ran treftadaeth ac o ran llesiant, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol sy’n dod o du Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect pwysig hwn.”

Ychwanegodd Aelod Cabinet y cyngor dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd, y Cynghorydd Jeremy Hurley: “Gall gwneud mwy o ddefnydd o’r camlesi hyn ddod ag effeithio gwirioneddol gadarnhaol i iechyd a bywydau pawb sy’n byw yn eu libart, a gallant hefyd ddenu pobl i mewn i’r fwrdeistref sirol, gan wella iechyd ein heconomi.”

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu rhai strategaethau allweddol, gan gynnwys Strategaeth Ddiwylliant newydd, Cynllun Rheoli Cyrchfannau, a Strategaeth Dreftadaeth, a’r cyfan yn darparu cyd-destun ac yn gyrru prosiectau treftadaeth allweddol yn eu blaenau.

 

hannwch hyn ar: