Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Dweud eich Dweud am Ddyfodol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot

Datblygwyd y cynllun drafft gyda phartneriaid er mwyn sicrhau fod anghenion plant a’u teuluoedd yn cael eu cwrdd drwy ddarparu gwasanaethau cefnogi sy’n gweithio orau iddyn nhw. Mae’n amlinellu sut y bydd y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau fod holl blant a phobl ifanc y sir, waeth beth fo’u hamgylchiadau, yn rhan o gymuned sy’n ateb eu hanghenion ac yn eu cefnogi i ffynnu.

Dweud eich Dweud am Ddyfodol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot

Bydd yn cynnwys canolbwyntio ar y pum blaenoriaeth isod dros y pum mlynedd nesaf:

BLAENORIAETH 1 – Cefnogi plant i fod yn iach ac yn barod i ddysgu.

BLAENORIAETH 2 – Mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu cael mynediad i’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.

BLAENORIAETH 3 – Gall plant a phobl ifanc gael mynediad i addysg sy’n eu hysbrydoli i ddysgu a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol y maen nhw eisiau’i gael.

BLAENORIAETH 4 – Gwrandewir ar bob plentyn a pherson ifanc, ac mae cyfle ganddynt i fod yn rhan weithredol o wneud penderfyniadau.

BLAENORIAETH 5 – Dylai pob plentyn a pherson ifanc dderbyn cefnogaeth i’w helpu’u hunain i fod yn gorfforol iach, a theimlo’n gryf yn feddyliol ac emosiynol.

Meddai’r Cynghorydd Nia Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar: “Mae eich mewnbwn chi’n hanfodol er mwyn rhoi ffurf ar fersiwn derfynol y Cynllun Plant a Phobl Ifanc.

“Drwy gymryd rhan yn y broses ymgynghori, gallwch chi sicrhau fod y blaenoriaethau, y canlyniadau a’r gweithredoedd sy’n cael eu hamlinellu yn y cynllun yn adlewyrchu’n gywir anghenion ein cymuned.

“Bydd eich adborth yn chwarae rhan hanfodol o ran llywio ein hymdrechion tuag at sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.”

Datblygwyd y cynllun drwy ymgysylltu helaeth, gan gynnwys sgyrsiau â thros 200 o blant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, dros 75 o rieni a gofalwyr, a sawl grŵp rhanddeiliaid. Roedd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar ddeall eu blaenoriaethau, eu profiadau, a syniadau ynghylch gwella gwasanaethau, gan sicrhau fod cynrychiolaeth o du grwpiau anodd cyrraedd atynt.

I weld y cynllun drafft a rhoi eich adborth, ewch i: https://beta.npt.gov.uk/council-democracy-elections/have-your-say/consultations/npt-children-young-peoples-plan/

hannwch hyn ar: