Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cymeradwyo gwerth dros £4m o waith cynnal a chadw ar lwybrau a heolydd, cryfhau pontydd a gwaith arall ledled Castell-ne

Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi rhoi’r golau gwyrdd i dros £4 miliwn o waith peirianneg priffyrdd, cynnal a chadw a gwaith arall ymhob rhan o’r fwrdeistref sirol.

Cymeradwyo gwerth dros £4m o waith cynnal a chadw ar lwybrau a heolydd, cryfhau pontydd a gwaith arall ledled Castell-nedd Port Talbot

Cymeradwywyd Rhaglen Waith Priffyrdd 2024/25 gan aelodau o Fwrdd Cabinet Amgylchedd, Adfywio a Strydlun Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar 22 Mawrth 2024.

Mae’n golygu cryfhau pontydd (£300,000), gwaith draenio (£300,000), rhoi wyneb newydd ar gerbytffyrdd (£1,852,000), rhoi wyneb newydd ar lwybrau troed (£143,000), ailwisgo arwyneb heolydd (£260,000), mân waith fel arwyddion traffig, bariwns, gorchmynion rheoli trafnidiaeth (£445,000), darparu strategaeth rheoli coed priffyrdd (£170,000) a gwaith cynnal a chadw a mesurau cysylltiol eraill i briffyrdd (£587,000).

Lluniwyd y Rhaglen Waith Priffyrdd gan swyddogion gan ddefnyddio gwybodaeth sy’n cynnwys adroddiadau archwilio gan swyddogion technegol ac arolygon eraill, ynghyd â chymorthfeydd cynghorwyr lleol.

Daw rhywfaint o’r arian ar gyfer y gwaith o arian a neilltuwyd ar gyfer ymrwymiad y cyngor i wella golwg ein trefi, ein cymoedd a’n pentrefi, a daw arian arall oddi wrth Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill yn y cyngor, fel arian refeniw cynnal a chadw a gynlluniwyd.

Meddai’r Aelod Cabinet dros Strydlun, y Cynghorydd Scott Jones: “Mae’r gwaith hwn yn digwydd ledled yr holl fwrdeistref sirol, yn rhannol fel rhan o’n menter i lanhau a glasu ein cymunedau, ond mae hefyd yn dangos mor enfawr yw’r dasg o gadw ein heolydd, ein llwybrau, ein pontydd ac isadeiledd arall mewn cynnal a chadw cywir.”

Dyma rai o blith y prosiectau a welir yn Rhaglen Waith Priffyrdd 2024/25:

ABERAFAN – Rhoi wyneb newydd ar Ffordd Afan o’r gyffordd â Heol Victoria (£75,000), Ffordd Afan – Heol Dalton – Heol Victoria: ailwisgo arwyneb yr heolydd (£90,000) Stryd Hopkin: ailwisgo arwyneb (£30,000), Ffordd Afan – Heol Southdown – Heol Dalton: ailwisgo arwyneb yr heolydd (£90,000).

ABERDULAIS – Cryfhau Pont Afon Dulais a thrwsio concrit (£60,000)

DYFFRYN AFAN – Heol Afan a Heol Maesteg: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd a Stryd y Bont i Lôn Stryd Dwnrhefn: sefydlogi llethr a gosod ffens (£391,000) a Heol Jersey yng Ngwynfi (£43,000)

YR ALLTWEN – Heol Glais: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd (£40,000)

BAGLAN – Willow Grove: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd (£70,000)

GORLLEWIN LLANSAWEL – ailwisgo arwyneb yr heol (£50,000)

BRYN a CHWMAFAN – Heol Depot: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd (£280,000), Dan y Coed: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd (£11,000)

CIMLA a PHELENNA – Heol Ton-mawr: draenio a diweddaru’r cwlfert (£75,000), Ffordd Glannant: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd (£30,000)

Canol COEDFFRANC – Heol Winifred: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd (£35,000)

Y CREUNANT, ONLLWYN a BLAENDULAIS Heol Castell-nedd: rhoi wyneb newydd ar y gerbytffordd (£80,000)

MARGAM a THAI-BACH – Stryd y Dŵr: draenio a gwella’r gerbytffordd (£30,000), Ffordd yr Harbwr: gwaith ar y gerbytffordd, gosod wyneb newydd (£240,000), Heol Harbourside: gosod wyneb newydd (£175,000)

DWYRAIN CASTELL-NEDD – Rhes Llundain: astudiaeth ddichonolrwydd i adeiladu / profi’r palmant / heol (£14,000)

PONTARDAWE – Heol y Gwrhyd, Rhyd-y-fro: gwaith gwella draenio, dyfrffordd a chwlfert (£100,000), Heol Gellifowy: gwaith gwella’r sianel ddraenio (£40,000)

PORT TALBOT – Broad St gan gynnwys y lôn gefn i Stryd yr Eryr: gwaith gosod wyneb newydd (£28,000), The Uplands: gwaith gosod wyneb newydd (£9,000).

RESOLFEN a THONNA – Heol yr Ysgol: gwaith gosod wyneb newydd (£13,000).

GORLLEWIN SANDFIELDS  – Ffordd Afan i Heol Southdown: gwaith gosod wyneb newydd ar y gylchffordd (£100,000) 

hannwch hyn ar:
Cymeradwyo gwerth dros £4m o waith cynnal a chadw ar lwybrau a heolydd, cryfhau pontydd a gwaith arall ledled Castell-nedd Port Talbot