Datganiad I'r Wasg
Galwad ar i drefnwyr digwyddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot wneud cais i gronfa newydd
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd ceisiadau i’w Gronfa Dreftadaeth, Diwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau (HCTE) ar gyfer digwyddiadau bach a mawr.
Nod yr arian hwn, sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin (SPF) Llywodraeth y DU, yw helpu sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i greu portffolio eang o ddigwyddiadau a gwyliau mawr a bach ledled Castell-nedd Port Talbot.
Mae’r cyllid ar agor nawr er mwyn i unrhyw sefydliad wneud cais am 100% o’r uchafbwynt ariannu, sef hyd at £10,000 o wariant sy’n gymwys ar gyfer pob digwyddiad.
Bydd y gronfa newydd yn sicrhau fod cyfleoedd gan drefnwyr digwyddiadau i ymgeisio am arian i gynyddu ystod y digwyddiadau sy’n digwydd ar draws y fwrdeistref sirol.
Rhaid defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithgaredd newydd neu elfennau o ddigwyddiadau sy’n bodoli eisoes sy’n ychwanegol at weithgaredd arferol.
Rhaid i ddarpar ymgeiswyr a allai elwa o arian grant ar gyfer eu digwyddiad lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb ac os ydyn nhw’n gymwys, cânt eu gwahodd i gyflwyno cais llawn gan y Tîm HCTE.
Mae’r digwyddiadau a’r gwyliau a anogir gan y gronfa newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd treftadaeth, diwylliant a dealltwriaeth amgylcheddol leol o fewn Castell-nedd Port Talbot ac yn cefnogi’u twf i’r dyfodol, a bydd hefyd yn annog pobl i aros dros nos yn yr ardal.
Bydd angen i ddigwyddiadau gael eu darparu, a phob arian gael ei hawlio’n llawn erbyn 31 Rhagfyr 2024.
I drafod eich prosiect arfaethedig a gofyn am ffurflen gais, e-bostiwch hctefund@npt.gov.uk