Datganiad I'r Wasg
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn edrych i’r dyfodol ar Lan Môr Aberafan!
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio barn pobl am sut y dylid datblygu Glan Môr Aberafan yn y dyfodol i ateb gofynion preswylwyr ac ymwelwyr.
Bydd sesiynau picio i mewn cyhoeddus yn digwydd ddydd Gwener 16 a Sadwrn 17 Chwefror, o 10am tan 6pm yng Nghanolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan.
Bydd eich barn am y pethau sy’n dda am lan y môr, a beth sydd ar goll, yn bwydo’n uniongyrchol i ‘uwch-gynllun’ ar gyfer Glan Môr Aberafan, a fydd yn llywio dewisiadau ar gyfer datblygu yn y dyfodol, a mwy o ymgynghori.
Yn y sesiynau picio i mewn bydd modd i aelodau’r cyhoedd siarad yn uniongyrchol ag aelodau’r tîm sy’n darparu Uwch-gynllun newydd Glan Môr Aberafan.
Dyma ddolen i ragor o wybodaeth sydd ar dudalen ar wefan y cyngor: https://beta.npt.gov.uk/aberavon
Bydd arolwg ar-lein hefyd yn ymddangos ar y dudalen ddydd Gwener 16 Chwefror, 2024 er mwyn i chi allu bwydo i mewn i'r prif gynllun.
Ariennir Prif Gynllun Glan Môr Aberafan gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.