Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn sicrhau gwasanaethau bysiau hanfodol er gwaethaf toriadau cyllid

Ar ôl misoedd o drafodaethau gyda chwmnïau trafnidiaeth, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i ddyfarnu 42 o gontractau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol, a hyd yn oed wedi adfer nifer o wasanaethau hanfodol a oedd wedi cael eu torri neu eu cwtogi'n ddifrifol.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn sicrhau gwasanaethau bysiau hanfodol er gwaethaf toriadau cyllid

Mae'r cyngor wedi dyfarnu contractau gwerth cyfanswm o £3,086,883 y flwyddyn ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol y mae eu mawr angen, a hynny er gwaethaf lleihad mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhwydwaith bysiau sydd wedi'i adfer yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnwys:

·       Gwasanaeth X6 (Bore) o Ystradgynlais i Orsaf Fysiau Abertawe

·       Gwasanaeth 256 (Bore) o Erddi Victoria Castell-nedd i Bontardawe

·       Gwasanaeth 256 (Gyda'r Nos) o Erddi Victoria Castell-nedd i Bontardawe

·       Gwasanaeth 38 (Dydd Sul) o Orsaf Fysiau Abertawe i Erddi Victoria Castell-nedd

·       Gwasanaeth 81 (Bob Awr) o Orsaf Fysiau Port Talbot i Frynbryddan

·       Gwasanaeth 82 (Bob Awr) o Orsaf Fysiau Port Talbot i Ystad Sandfields (Rhodfa Aur)

Daw canlyniad llwyddiannus ymarfer tendro'r cyngor gyda chwmnïau bysiau yn ystod cyfnod cythryblus i'r diwydiant bysiau, gan fod llawer o'r cyhoedd heb ailddechrau teithio ar fysiau yn dilyn pandemig COVID-19, gan olygu bod niferoedd teithwyr 50% yn llai na'r lefelau cyn COVID-19 ledled Cymru.

Mae gwasanaethau bysiau lleol wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ers y pandemig drwy'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ac, yn fwy diweddar, y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau. Aeth llawer o wasanaethau'n annichonadwy gan olygu bod cymunedau'n colli cysylltiad â chymdeithas a bod pobl yn ei chael hi'n anodd mynd i'r gwaith, i'r ysgol neu i leoliadau iechyd.

Y cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yn Rhanbarth De-orllewin Cymru (gan gynnwys Castell-nedd Port Talbot) ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod (2024/25) oedd £10.06m – sef £733,700 yn llai na'r £10.8m a ddyrannwyd yn 2023/24.

Cafodd y broses dendro lwyddiannus ei chynnal gan Uned Trafnidiaeth Teithwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot drwy ei system brynu ddynamig.

Fodd bynnag, mae'r diwydiant bysiau'n parhau i wynebu anawsterau difrifol oherwydd y lleihad yn y galw a'r cynnydd mewn costau.

Mewn diweddariad i gynghorwyr, dywedodd adroddiad gan swyddogion Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Nid yw gwasanaethau bysiau a oedd yn fasnachol ddichonadwy o'r blaen yn ddichonadwy i'r gweithredwyr bysiau mwyach, ond maent yn angenrheidiol yn gymdeithasol ac yn economaidd i lawer o deithwyr na allant ddefnyddio car.

“Ar ben hynny, bydd y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau'n dod i ben ar 31 Mawrth 2024, ac yn cael ei disodli gan grant amgen i gefnogi gwasanaeth bysiau o fis Ebrill 2024 ymlaen – sef y Grant Rhwydwaith Bysiau. O hynny ymlaen, y bwriad yw y bydd yr holl wasanaethau bysiau lleol a weithredir yng Nghymru naill ai'n cael eu gweithredu fel gwasanaethau masnachol neu'n cael eu gweithredu o dan Gontract Gwasanaethau a Gefnogir newydd gan gynghorau lleol. “

Yn y dyfodol, caiff model ‘masnachfreinio’ newydd ei sefydlu yng Nghymru a fydd yn cael ei redeg gan gynghorau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o'r Bil Bysiau. O dan y trefniadau hyn, caiff awdurdodau lleol eu grwpio gyda'i gilydd mewn nifer o ardaloedd masnachfreinio.

Ychwanegodd yr adroddiad y byddai'n rhaid i bron pob awdurdod lleol yng Nghymru (gan gynnwys awdurdodau cyfagos) dendro am wasanaethau ar yr un pryd o fewn marchnad sy'n lleihau, a'i bod yn bosibl na fyddai rhai contractau'n cael eu dyfarnu. 

 

 

             

hannwch hyn ar: