Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Dyn yn talu pris mawr ar ôl canfod gweddillion fferm ganabis wedi’i dympio mewn coedwig

Mae ymchwiliad i olion fferm ganabis a ddympiwyd ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru ger Blaengwynfi, yn Nyffryn Afan ger Port Talbot, wedi costio bron i £2,000 i ddyn o Gaerffili.

Dyn yn talu pris mawr ar ôl canfod gweddillion fferm ganabis wedi’i dympio mewn coedwig

Plediodd Peter Darmanin, 50, o Ben-y-fordd, Caerffili, yn euog yn Llys Ynadon Abertawe i drosedd o fethu â chydymffurfio â’i Ddyletswydd Gofal, wrth waredu gwastraff dan A34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Dywedodd wrth Swyddogion Gorfodi Gwastraff Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei fod wedi trefnu, drwy ei gontractwr, i’r gwastraff gael ei symud gan fusnes arall, o dŷ yn Stryd Margaret, Blaengwynfi, yr oedd Mr Darmanin yn landlord arno. Roedd y gwastraff yn cynnwys bagiau plastig a photiau o bridd.

Ond ni allwyd dod o hyd i’r Cwmni Gwaredu Gwastraff ac ni ddarparwyd unrhyw nodyn trosglwyddo gwastraff. Dywedodd Mr Darmanin wrth y swyddogion hefyd nad oedd ef wedi cysylltu’n uniongyrchol â’r cwmni i sicrhau fod ganddyn nhw drwydded i gludo gwastraff nac i wirio ble roedden nhw’n gwaredu’r gwastraff.

Dedfrydwyd Mr Darmanin gan yr Ynadon i ddirwy o £800, yn ogystal â gorchymyn costau’r erlyniad o £793.91 a gordal dioddefwr o £320, sef cyfanswm o £1,913.91 am y drosedd.

Dywedodd y Cynghorydd Scott Jones, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun: “Dyma erlyniad llwyddiannus arall am drosedd diogelu amgylcheddol, diolch i’n hagwedd dim goddef.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i waredu’r ymddygiad gwrthgymdeithasol hwn o’n cymunedau, a hoffwn annog unrhyw un sy’n talu i rywun fynd â gwastraff i ffwrdd i wirio fod gan y person hwnnw drwydded lawn a’u bod wedi cofrestru i wneud y gwaith, am y gallai’r oblygiadau fod yn ddirwy sylweddol a chostau, fel y gwelir yn yr achos hwn.”

hannwch hyn ar: