Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

Dathlwch Ein Treftadaeth a Chymerwch Ran yng Nghystadleuaeth Byddwch yn Rhan o'n Hanes!

Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed, yn ymddiddori mewn diwylliant a threftadaeth ac yn byw, yn astudio neu'n gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot, rydych chi'n cael eich gwahodd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth ‘Byddwch yn Rhan o'n Hanes’ Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Dathlwch Ein Treftadaeth a Chymerwch Ran yng Nghystadleuaeth Byddwch yn Rhan o'n Hanes!

Gall cystadleuwyr greu collage, darlun, paentiad, print, map darluniadol (neu unrhyw ffurf gelf briodol arall) i ddathlu ein treftadaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a mynegi'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw.                                                          

Y wobr i'r enillydd yw Aelodaeth i'r Teulu am 12 mis â Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Caiff aelodau fynediad am ddim i holl eiddo Cadw yng Nghymru, a manteision aelodaeth drwy gydol eu cyfnod fel aelodau.

Hefyd, caiff y dyluniad buddugol ei arddangos yn Studio 40, Stryd y Frenhines (Castell-nedd) fel rhan o Ŵyl Gelf a Llên Castell-nedd 2023. Bydd y dyluniad yn ymddangos ar wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac ar hysbysfwrdd digidol Llyfrgelloedd CNPT.

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, ewch i Cystadleuaeth Byddwch yn Rhan o'n Hanes – Cyngor Castell-nedd Port Talbot (npt.gov.uk) *Gweler y Telerau ac Amodau.

Mae'r wefan uchod yn cynnwys llinell amser treftadaeth leol y gall cystadleuwyr ei defnyddio i gael ysbrydoliaeth, os hoffen nhw wneud hynny. Mae'n rhoi manylion popeth o'r carneddau claddu cynharaf i ddyddiadau geni pobl adnabyddus CNPT, fel Richard Burton a Max Boyce, a sylfaenu safleoedd hanesyddol fel Abaty Nedd ac Abaty Margam.

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 4 Hydref 2023 a bydd angen i ddyluniadau gael eu cyflwyno yn un o lyfrgelloedd y Cyngor. 

Caiff y gystadleuaeth ei hariannu gan Brosiect Treftadaeth CNPT gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd y Cyngh. Cen Phillips, sef Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Hoffem ddiolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ei chefnogaeth werthfawr i Brosiect Treftadaeth CNPT.

      “Mae'r cyfan yn rhan o'n strategaethau diwylliant a threftadaeth sy'n ceisio cyfleu ysbryd unigryw Castell-nedd Port Talbot, gan ein helpu i edrych tua'r dyfodol           yn hyderus y gall ein stori apelio at bob trigolyn lleol a llawer o ymwelwyr newydd, a'u hysbrydoli hefyd, gan ddiogelu ein hasedau treftadaeth i genedlaethau'r         dyfodol eu mwynhau.”                        

hannwch hyn ar:
Abaty Nedd