Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Pleidleisio drwy'r post neu ddirprwy

Pleidleisio drwy'r post

Os oes angen i chi bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad hwn, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r post, neu i ganslo neu newid pleidlais drwy'r post bresennol yn yr etholiad hwn yw 5yp dydd Mercher 19 Mehefin. 

Rheolau newydd ar gyfer trafod pleidleisiau drwy'r post

Mae rheolau newydd wedi'u cyflwyno ynghylch trafod pleidleisiau drwy'r post:

  • bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau drwy'r post y gall person gyflwyno'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
  • os yw person yn cyflwyno mwy na phum pecyn pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr eraill, gwrthodir yr holl bleidleisiau drwy'r post (ac eithrio pecyn y person ei hun)
  • bydd angen i unrhyw un sy'n cyflwyno pleidleisiau drwy'r post yn bersonol gwblhau ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post'.
  • felly, ni allwn dderbyn pleidleisiau drwy'r post sy'n cael eu gadael yn y blwch llythyrau yn swyddfeydd y cyngor mwyach
  • bydd unrhyw bleidleisiau drwy'r post sy'n cael eu gadael mewn unrhyw un o adeiladau'r cyngor heb fod y ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post' wedi'i llenwi yn cael eu gwrthod
  • byddem felly'n argymell bod pleidleisiau drwy'r post yn cael eu dychwelyd atom drwy'r Post Brenhinol cyn gynted â phosib cyn y diwrnod pleidleisio

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad hwn, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5yp, ddydd Mercher 26 Mehefin.

Bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng

Os, ar ôl 5yp ar 24 Ebrill, y cewch eich hun mewn sefyllfa lle na allwch bleidleisio'n bersonol, oherwydd rhesymau gwaith neu feddygol, gall fod hawl gennych i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth. 

Cyfarwyddiadau i SA13 1PJ
Gwasanaethau Etholiadol
Swyddog Cofrestru Etholiadol Canolfan Ddinesig Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 76 33 30 (01639) 76 33 30 voice +441639763330