Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Troi i mewn i gartrefi

Cynllun Benthyca Eiddo Gwag Troi Tai’n Gartrefi

Mae cynllun benthyca Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru’n cynnig benthyciadau di-log byrdymor er mwyn adnewyddu a / neu droi eiddo a fu’n wag ers amser maith yn ôl i fod yn addas i’w defnyddio fel llety ble gall pobl fyw. Gallai hyn gynnwys troi eiddo’n fflatiau, adnewyddu tŷ sy’n bodoli eisoes, neu amnewid eiddo masnachol yn eiddo preswyl.

Mae benthyciadau ar gael ar gyfer hyd at £25,000 fesul eiddo, a hyd at uchafswm o £250,000 i bob ymgeisydd.

Rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn wag ers o leiaf 6 mis.

Mae sawl amod yn gysylltiedig â’r benthyciad. Yn eu plith mae:

  • Ad-delir y benthyciad dros 5 mlynedd os yw’r eiddo ar gael i’w rentu
  • Ad-delir y benthyciad dros 2 flynedd os yw’r eiddo ar gael i’w werthu
  • Bydd ffi weinyddol untro’n gorfod cael ei thalu, y gellir ei thalu’n ôl dros holl dymor y benthyciad, neu ar y dechrau.
  • Mae cymhareb 80% benthyciad yn erbyn gwerth (LTV) ble nad oes modd i unrhyw fenthyciad a gynigir, ar ôl ystyried unrhyw forgais neu fenthyciad a warantir sy’n bodoli eisoes, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo sy’n cael ei ddefnyddio fel gwarant ar y farchnad agored. Gellir darparu enghreifftiau o hyn o holi amdanynt.

Mae pob benthyciad yn ddibynol ar fod ar gael. Nid yw cael cynnig benthyciad yn addewid o’i gael hyd nes i chi dderbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan y cyngor. Bydd unrhyw waith a wneir cyn derbyn y gymeradwyaeth hon yn digwydd ar eich perwyl eich hun.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys o dan yr amodau canlynol i dderbyn y benthyciad:

  • Rhaid i’r eiddo fod wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot
  • Rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn wag ers o leiaf 6 mis
  • Rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn asesiad fforddiadwyedd (ble defnyddir Gwybodaeth Statws Credyd a ffactorau eraill)
  • Penderfynir ar waith sy’n gymwys gan Swyddog Awdurdod Lleol, pan fydd yn archwilio’r eiddo.
  • Rhaid i’r eiddo fod ar gael i’w werthu neu’i osod ar ôl i’r gwaith gael ei orffen, ni chaniateir i’r perchennog fyw yno; gweler ein Benthyciad Gwella Cartref ar gyfer cartrefu perchennog (dolen).

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am fenthyciad eiddo gwag Troi Tai’n Gartrefi, cysylltwch â:

Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai

Ffôn: 01639 763535 (Llun – Mercher) neu 01639 763212 (Mercher – Gwener)

E-bost: privatesectorloans@npt.gov.uk