Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Benthyciad gwella cartrefi

Mae benthyciad gwella cartrefi Llywodraeth Cymru’n fenthyciad di-log sy’n amrywio o £1000 i £25,000 i dalu am waith atgyweirio hanfodol i’ch cartref. Mae’r benthyciad ar gael i berchnogion tai, landlordiaid, (unigolion neu gwmnïau), datblygwr a sefydliadau elusen / trydydd sector.

Gallwch ddefnyddio’r benthyciad i dalu am waith sy’n gwneud eich cartref yn fwy cynnes, yn saffach ac yn fwy diogel. Er enghraifft:

  • Namau sylweddol i’ch eiddo, er enghraifft – grisiau peryglus, trydan peryglus, to sy’n gollwng.
  • Diogelwch neu sicrwydd rhag tân
  • Uwchraddio boeleri / systemau gwres canolog
  • Ffenestri newydd
  • Atal tamprwydd

Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Mae sawl amod yn gysylltiedig â’r benthyciad. Yn eu plith mae:

  • Lleiafswm y benthyciad i bob eiddo cartref yw £1000 gydag uchafswm o £25,000.
  • Cytunir ar delerau ad-dalu i berchnogion cartrefi fesul achos hyd at dymor hiraf y benthyciad o 10 mlynedd.
  • Bydd ffi weinyddol untro’n gorfod cael ei thalu, y gellir ei thalu’n ôl dros holl dymor y benthyciad, neu ar y dechrau.
  • Mae cymhareb 80% benthyciad yn erbyn gwerth (LTV) ble nad oes modd i unrhyw fenthyciad a gynigir, ar ôl ystyried unrhyw forgais neu fenthyciad a warantir sy’n bodoli eisoes, fod yn fwy nag 80% o werth presennol yr eiddo sy’n cael ei ddefnyddio fel gwarant ar y farchnad agored. Gellir darparu enghreifftiau o hyn o holi amdanynt.

Mae pob benthyciad yn ddibynnol ar fod ar gael. Nid yw cael cynnig benthyciad yn addewid o’i gael hyd nes i chi dderbyn cymeradwyaeth ffurfiol gan y cyngor. Bydd unrhyw waith a wneir cyn derbyn y gymeradwyaeth hon yn digwydd ar eich perwyl eich hun.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys o dan yr amodau canlynol i dderbyn y benthyciad:

  • Rhaid i’r eiddo fod wedi’i leoli yng Nghastell-nedd Port Talbot
  • Rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn asesiad fforddiadwyedd (ble defnyddir Gwybodaeth Statws Credyd a ffactorau eraill)
  • Penderfynir ar waith sy’n gymwys gan Swyddog Awdurdod Lleol, pan fydd yn archwilio’r eiddo.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y benthyciad Gwella Cartrefi, cysylltwch â:

Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu Tai

Ffôn: 01639 763535 (Llun – Mercher) neu 01639 763212 (Mercher – Gwener)

E-bost: privatesectorloans@npt.gov.uk