Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun grantiau cartrefi gwag cenedlaethol

Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael ar gyfer adnewyddu eiddo gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.

Mae’r grant ar gael mewn rhandaliadau wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd roi cyfraniad gwerth o leiaf 15%.

Cymhwysedd

  • rhaid bod yr eiddo wedi’i gofrestru yn wag gyda’r adran Cyngor y Treth am o leiaf 12 mis
  • rhaid bod yr eiddo o dan berchnogaeth yr ymgeisydd, neu ei fod yn y broses o’i brynu pan fo’r cais yn cael ei wneud; ac
  • os yn llwyddiannus, rhaid i’r ymgeisydd fyw yn yr eiddo am o leiaf 5 mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith a hynny fel ei brif a’i unig breswylfa.

Gwneud cais

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n cyflawni’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. Byddwch yn cael eich cyfeirio at eu wefan nhw.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
(01443) 494712 (01443) 494712 voice +441443494712