Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Darparu Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl (LlPUA) yng Nghastell-nedd Port Talbot

Crynodeb Gweithredol

Argymhellir bod y cyngor yn mabwysiadu'r polisi a'r meini prawf hyn (fel y'u nodir yn Atodiad A) fel y protocol ar gyfer ystyried ceisiadau am Leoedd Parcio Unigol i'r Anabl (LlPUA).

Cefndir

Mae'r cynllun LlPUA wedi bod ar waith ers 2003, â'r nod o ddarparu lleoedd parcio yn union y tu allan i gwrtil yr eiddo i helpu pobl anabl y mae eu nam symudedd yn golygu na allant gerdded unrhyw bellter sylweddol.

Ym mis Chwefror 2012, yn dilyn adolygiad o'r polisi Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl a'i weithdrefnau, gwnaed penderfyniad i ddarparu LlPUA drwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT) gorfodadwy a diweddaru'r meini prawf cymhwysedd a'r broses asesu i sicrhau mai'r bobl hynny â'r angen mwyaf yn unig sy'n cael eu hystyried.

Ers mabwysiadu'r polisi hwn, cafwyd sawl newid deddfwriaethol ac, yn ogystal, nifer o amgylchiadau nad aed i'r afael â hwy. Nod y polisi hwn yw mynd i'r afael â'r rhain. Rhaid dweud nad oes rhwymedigaeth statudol i'r cyngor ddarparu LlPUA a bod y fath ddarpariaeth yn wasanaeth dewisol y mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau y caiff ei ddarparu mewn modd teg a chyfartal.

Darpariaeth Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl (LlPUA)

Diben darparu Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl (LlPUA) yng Nghastell-nedd Port Talbot yw darparu lleoedd parcio yn union y tu allan i gwrtil yr eiddo i helpu pobl anabl y mae ei nam symudedd yn golygu na allant gerdded unrhyw bellter sylweddol.

Mae'r cyngor yn cydnabod y ceir y budd mwyaf o gyflwyno LlPUA mewn ardaloedd lle ceir ychydig yn unig o leoedd parcio oddi ar stryd neu ddim o gwbl, ac mae cryn gystadleuaeth am leoedd parcio ar y stryd.

Er mwyn helpu'r rhai y mae angen y ddarpariaeth LlPUA arnynt fwyaf, caiff ceisiadau eu hystyried yng Nghastell-nedd Port Talbot yn yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  1. Rhaid i'r ymgeisydd fod yn gyrru ac yn berchen ar gerbyd sydd wedi'i gofrestru yn y cyfeiriad lle bwriedir gosod cilfach barcio i'r anabl.
  2. Nid oes gan yr ymgeisydd fynediad i barcio oddi ar y stryd eisoes neu ni all ddarparu lle parcio oddi ar y stryd drwy glirio tramwyfa/llawr caled presennol neu drwy ddefnyddio garej bresennol eto.
  3. Ni ddylai'r ymgeisydd fod wedi cyflwyno cais eisoes am grant anabledd i ddarparu lle parcio oddi ar y stryd h.y. tramwyfa. Mae hyn yn cynnwys y rhai ar restr aros am yr uchod.

Nid yw'r meini prawf hyn yn gwarantu y darperir LlPUA, ond mae'n gwarantu y caiff y cais ei asesu am addasrwydd.

Cymhwysedd ar gyfer Darpariaeth LlPUA

Nod y polisi hwn yw darparu mynediad i le parcio yn union y tu allan i gwrtil eiddo gyrwyr y mae eu symudedd yn golygu na allant gerdded unrhyw bellter sylweddol, fel a amlinellir yn y ddogfen hon a dogfennau ategol eraill. Nid yw'r polisi hwn yn darparu ar gyfer rhoi lleoedd parcio i breswylwyr anabl nad ydynt yn gyrru ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Mabwysiadwyd y prif faen prawf, sef mae'n rhaid mai'r ymgeisydd anabl yw gyrrwr y cerbyd, oherwydd ei bod hi'n rhesymol disgwyl y bydd gyrrwr cadarn o gorff yn gallu parcio dwbl am gyfnod byr er mwyn gollwng y teithiwr anabl ac yna symud y cerbyd yn ddi-oed ar ôl hynny. Ystyrir bod hyn yn drefniant rhesymol ar y rhan fwyaf o strydoedd preswyl.

Yn ogystal, mae'r cyngor yn gwerthfawrogi y gall y cyhoedd ddigio wrth y ffaith ei bod hi'n ymddangos bod gan yrwyr nad ydynt yn anabl le parcio ar gadw. Mae'r polisi felly wedi'i lunio i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i holl breswylwyr yr ardal.

Felly, mae'r meini prawf asesu'n gofyn bod gan ymgeisydd nam symudedd sylweddol ac mai ef hefyd yw gyrrwr y cerbyd y mae'n rhaid ei fod wedi'i gofrestru i gyfeiriad yr ymgeisydd.
Mewn amgylchiadau eithriadol, rhoddir ystyriaeth i ddarparu LlPUA i deithiwr ar y sail bod anabledd yr ymgeisydd yn golygu na ellir ei adael ar ei ben ei hun, hyd yn oed am gyfnod byr iawn, ac o ganlyniad, mae'n rhaid iddo gael ei oruchwylio'n gyson.

Rhoddir ystyriaeth hefyd mewn amgylchiadau lle bernir bod nodweddion y ffordd yn ei gwneud hi'n anaddas i ganiatáu parcio dwbl am gyfnodau byr gan yrrwr cadarn o gorff er mwyn cynorthwyo'r teithiwr anabl i le diogel.

Ystyrir eithriad ar wahân ar gyfer plant anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf heblaw am fod y gyrrwr, os mai eu rhiant, gwarcheidwad, perthynas agos neu ofalwr amser llawn yw'r gyrrwr cadarn o gorff, ac mae hefyd yn byw gyda hwy.
Nodir meini prawf darparu Lle Parcio Unigol i'r Anabl yn Atodiad 1 y ddogfen hon.

Lleoliadau lle na ddarperir LlPUA

Y cyngor yw'r Awdurdod Priffyrdd a'r Awdurdod Traffig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ni fydd y cyngor yn caniatáu cyflwyno LlPUA pe bai hynny'n gwrthdaro â dyletswyddau a chyfrifoldebau'r cyngor yn y ddwy rôl hyn.

O ganlyniad, ni fydd y cyngor yn ystyried darparu LlPUA yn y lleoliadau canlynol:

  • Yng nghyfleuster pen troi unrhyw ffordd bengaead.
  • Mewn unrhyw leoliad lle gwaherddir parcio neu gyfyngir ar barcio (gan gynnwys parcio â hawlen), aros neu lwytho, neu lle mae'r cyngor yn ystyried gwneud hynny.
  • O fewn 10 metr o gyffordd ffordd.
  • Mewn lleoliadau lle mae hanes o ddamweiniau sy'n ymwneud â gwelededd.
  • Mewn safle a all atal llif arferol y traffig rhag mynd heibio.
  • Mewn safle lle na fydd modd i gerbydau sy'n teithio weld cerbyd wedi'i barcio, megis ar dro.
  • Ar briffordd heb ei mabwysiadu neu ar dir preifat.
  • Ardaloedd eraill lle bernir bod diogelwch y briffordd wedi'i beryglu.

Asesu Ceisiadau

Asesir ceisiadau i ddechrau drwy ffurflen gais IDPP1, neu unrhyw ddiwygiad dilynol: Yr Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid fydd yn gwneud hyn.

Gwahoddir ymgeiswyr sy'n ymddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd i gyfarfod wyneb yn wyneb yn y Siop dan yr Unto yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd neu Bort Talbot, lle bydd gofyn iddynt gyflwyno'r dystiolaeth ategol ganlynol:

  • Copi o drwydded yrru'r ymgeisydd
  • Copi o'r ddogfennaeth V5 fel prawf bod y cerbyd wedi'i gofrestru i gyfeiriad yr ymgeisydd.
  • Tystiolaeth feddygol ategol gan gynnwys tystiolaeth gan Ymgynghorydd, Ffisiotherapydd neu nyrs arbenigol ond NID gan Feddyg Teulu'r ymgeisydd ei hun. Rhaid iddi gadarnhau anabledd yr ymgeisydd a sut mae'n effeithio ar ei allu i gerdded unrhyw bellter. Os oes angen, bydd staff hefyd yn defnyddio gwybodaeth arall a ddelir gan y cyngor i helpu i bennu cymhwysedd. Ni fydd unrhyw gais yn symud ymlaen o'r cam hwn heb yr wybodaeth uchod.

Os oes amheuaeth ynghylch cymhwysedd yn dilyn yr asesiad cychwynnol, bydd Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol yn cynnal asesiad o angen, fel a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae'n bwysig nodi nad oes sicrwydd y bydd y bobl hynny sy'n bodloni'r meini prawf yn cael LlPUA.

Os caiff yr holl wybodaeth uchod ei darparu er boddhad y cyngor, cynhelir asesiad o'r briffordd mewn perthynas â darparu LlPUA gan swyddog enwebedig priodol sy'n gweithio yn Is-adran Traffig Adran yr Amgylchedd.

Os bernir bod LlPUA yn addas ceisir barn cymdogion drwy'r broses ymgynghori statudol. Caiff unrhyw farnau a gyflwynir drwy'r ymgynghoriad eu hystyried ac fe'u hadolygir gydag aelodau lleol a'u cyflwyno i Fwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet am benderfyniad terfynol.

Os asesir y byddai gosod LlPUA yn peryglu diogelwch y briffordd, gwrthodir y cais. Nid oes proses apêl ar gyfer gwrthod LlPUA am resymau diogelwch ar y briffordd. Mae'r penderfyniad yn derfynol.

Asesu Ceisiadau am Eithriadau

Mae'r cyngor yn cydnabod na ellir asesu dau grŵp o bobl yn hawdd gan ddefnyddio'r meini prawf asesu safonol. Felly, ystyrir yr eithriadau canlynol.

Teithwyr Anabl na allant Yrru

Mae'r cyngor yn cydnabod, mewn rhai amgylchiadau, y bydd angen cymorth penodol ar rai teithwyr anabl i barcio ar gwrtil eu heiddo.
O ganlyniad, bydd y cyngor yn ystyried eithriadau am y rheswm bod y cais ar ran preswylydd â nam symudedd sy'n derbyn gofal gan yrrwr y cerbyd sy'n byw yn y cyfeiriad hwnnw.

Caiff y cais ei ystyried am y rhesymau canlynol:

  • Ni ellir ei adael ar ei ben ei hun ac o ganlyniad, rhaid iddo gael ei oruchwylio'n gyson. Byddai angen tystiolaeth gymdeithasol/feddygol ategol
  • Mae'n dibynnu'n barhaol ar yrrwr nad yw'n gallu cynorthwyo'r teithiwr anabl i'r ardal barcio agosaf sydd ar gael, nac oddi yno, oherwydd ei wendid a/neu ei anabledd ei hun.
  • Mae nodweddion y ffordd yn golygu nad yw'n addas i ganiatáu parcio dwbl am gyfnod byr gan yrrwr cadarn o gorff er mwyn iddo gynorthwyo'r person anabl i le diogel.

Caiff y cais am eithriad ei asesu i ddechrau drwy'r broses cyflwyno cais arferol.

Ymgynghorir â Thîm Iechyd Galwedigaethol y cyngor i helpu i drafod y cais am eithriad. Mae'n bosib y bydd y cyngor yn cysylltu â'r ymgeisydd o ran ei ddarpariaeth gwasanaeth.

Plant anabl

Gall gyrwyr sy'n rhieni i blant â nam symudedd neu sy’n gofalu amdanynt elwa o ddarpariaeth LlPUA.

O ganlyniad, cynigir eithriad os mai'r rhiant, y gwarcheidwad neu'r gofalwr amser llawn yw'r gyrrwr cadarn o gorff ac mae'n byw gyda'r plentyn anabl.

Caiff y cais ei ystyried am y rhesymau canlynol:

  • Ni ellir ei adael ar ei ben ei hun ac o ganlyniad, rhaid iddo gael ei oruchwylio'n gyson. Byddai angen tystiolaeth gymdeithasol/feddygol ategol.
  • Mae'n dibynnu'n barhaol ar yrrwr nad yw'n gallu cynorthwyo'r teithiwr anabl i'r ardal barcio agosaf sydd ar gael, nac oddi yno, oherwydd ei wendid a/neu ei anabledd ei hun.
  • Mae nodweddion y ffordd yn golygu nad yw'n addas i ganiatáu parcio dwbl am gyfnod byr gan yrrwr cadarn o gorff er mwyn iddo gynorthwyo'r person anabl i le diogel.

Caiff y cais am eithriad ei asesu i ddechrau drwy'r broses cyflwyno cais arferol.

Ymgynghorir â Thîm Iechyd Galwedigaethol y cyngor i helpu i drafod y cais am eithriad. Mae'n bosib y bydd y cyngor yn cysylltu â'r ymgeisydd o ran ei ddarpariaeth gwasanaeth.

Cyflwyno cilfachau a gorfodi

Cynhelir y lleoedd parcio unigol i'r anabl a ddarperir gan Gastell-nedd Port Talbot gan GRhT (Gorchymyn Rheoleiddio Traffig o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984) sy'n orfodadwy o dan y gyfraith. Mae hyn yn golygu y gall y cyngor gymryd camau gweithredu yn erbyn person sy'n parcio yn y gilfach i'r anabl os nad yw'n dangos yr hawlen benodol yn gywir.

Adolygu'r Ddarpariaeth LlPUA

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd yw hysbysu'r cyngor pan na fydd angen LlPUA ar yr ymgeisydd mwyach.

Pan hysbysir y cyngor o newidiadau i ofynion yr ymgeisydd (er enghraifft os bydd yr ymgeisydd yn symud), bydd y cyngor yn ymchwilio ac yn ystyried cael gwared ar y lle parcio.

Y broses apelio

Wrth dderbyn llythyr sy'n gwrthod cais am Leoliad Parcio Unigol i'r Anabl (LlPUA) gan yr awdurdod lleol ar sail 'Gallu i gerdded', gall yr ymgeisydd apelio'n ysgrifenedig i'r awdurdod o fewn 18 niwrnod i ddyddiad y llythyr hysbysu.

Dylai'r llythyr apêl nodi'n glir pam y gwrthwynebir y penderfyniad a chynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol ategol newydd a/neu ddogfennaeth sy'n weddill.

Wrth dderbyn y llythyr apêl, caiff y cais ei adolygu gan Therapydd Galwedigaethol Cymunedol (ThGC). Os yw'r asesiad therapi galwedigaethol yn cadarnhau bod angen darparu lle parcio hygyrch i gerbyd, ac nid oes modd diwallu'r anghenion drwy ddarparu addasiadau yng nghwrtil yr eiddo, e.e. parcio oddi ar y ffordd, ceisir barn Is-adran Traffig y cyngor er mwyn penderfynu a yw darpariaethau LlPUA yn ymarferol.

Os nodir bod angen a aseswyd a'i bod yn ymarferol i osod y ddarpariaeth, bydd dogfennaeth ategol gan y Therapydd Galwedigaethol Cymunedol yn cael ei darparu i'r swyddog enwebedig yn yr Is-adran Traffig.

Bydd y Therapydd Galwedigaethol Cymunedol yn hysbysu'r ymgeisydd o ganlyniad yr asesiad.

Lle bydd person sy'n asesu cymhwysedd yn anfodlon ar unrhyw benderfyniad a wnaed gan swyddogion mewn perthynas â darparu'r LlPUA, bydd uwch-swyddog yn adolygu'r amgylchiadau, mewn ymgynghoriad â'r aelod lleol, a chyflwynir y mater i Fwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet am benderfyniad terfynol.

Nid oes proses apêl ar gyfer gwrthod LlPUA am resymau diogelwch ar y briffordd. Mae'r penderfyniad yn derfynol.

Diogelu data

Bydd y cyngor yn cadw'r holl wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd fel data digidol yn rhwydwaith diogel y cyngor. Caiff yr holl gopïau papur a ddarperir gan yr ymgeisydd eu digideiddio ar ôl iddynt gael eu derbyn.