Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun cynnal chadw priffyrdd

Mae'r ddogfen hon yn nodi strategaeth y Cyngor mewn perthynas â'r holl weithgareddau a wneir ar y briffordd gyhoeddus. Mae'r ddogfen yn cwmpasu egwyddorion, o "Priffyrdd a Gynhelir yn Dda", y Cod Ymarfer ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd.

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot rwydwaith o 858 cilomedr o briffordd sy'n cael ei chynnal ar draul y cyhoedd. Mae'r rhwydwaith priffyrdd yn hanfodol i bobl Castell-nedd Port Talbot ac ymwelwyr gan ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn bywyd bob dydd gan unigolion a busnesau lleol. Mae pwysigrwydd y rhwydwaith yn cael ei amlygu gan yr amhariad ar fywyd bob dydd a achosir pan, er enghraifft, tywydd eithafol yn effeithio ar ei weithrediad llyfn.

Er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn gweithio’n effeithiol drwy gydol y flwyddyn, mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar elfennau amrywiol o'r briffordd sy'n cynnwys ffyrdd cerbydau, troedffyrdd, lleiniau ymyl, systemau draenio, strwythurau, goleuadau, arwyddion a marciau ffordd. Mae rheoli'r briffordd yn dasg fwyfwy heriol o ystyried yr angen i liniaru effeithiau difrod a achosir gan gynnydd mewn llif traffig, cerbydau trymach a mwy o faint, ac yn ehangu gweithrediadau gan gyfleustodau, tra bod cyllidebau refeniw yn parhau i fod yn gyfyngedig.

Llawrlwythiadau

  • Highway maintenance plan (PDF 511 KB)