Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Reprograffeg

Uned addysg arbenigol yw’r uned Reprograffeg sy’n datblygu ystod o gynnyrch proffesiynol, o ansawdd uchel, ar gyfer sefydliadau Addysg.

Gwasanaethau

Argraffu a Chyhoeddi:

  • Argraffwyr lliw sy’n cynhyrchu copïau o ansawdd uchel 
  • Argraffydd du sy’n gweithio’n gyflym iawn 
  • Argraffydd pigment 12 lliw, fformat eang (1060mm) 
  • Plygwr papur awtomatig 
  • Gilotîn papur maint mawr 
  • Peiriant rhwymo thermol 
  • Peiriannau rhwymo crib a gwifren 
  • Pwnsh calendr 
  • Styffyllwyr pwyth cyfrwy 
  • Gweisg crysau T, capiau a mygiau 
  • Plotydd/torrwr digidol 
  • Peiriannau sganio dogfennau maint A3 ac A4

Clyweledol:

  • Copïwr Fideo-i-DVD/DVD-i-fideo
  • Argraffydd dyblygu DVD/CD
  • Camerâu lluniau llonydd digidol
  • Camerâu fideo digidol
  • Goleuadau stiwdio ffotograffig cludadwy
  • Peiriant recordio sain digidol

Technoleg Gwybodaeth:

Rydyn ni’n annog unigolion sy’n awyddus i fynd ati’n ymarferol i gynhyrchu adnoddau trwy gynnig hyfforddiant a chymorth â’r meddalwedd a’r caledwedd sydd ar gael gan y Gwasanaeth.

Gellir cael benthyg peth o’n cyfarpar (e.e. camerâu fideo, taflunwyr ac ati) a darperir hyfforddiant yn ôl yr angen.  

Ffotograffiaeth a Fideo

Cynigir ystod o wasanaethau ffotograffiaeth a fideo sy’n amrywio o roi benthyg cyfarpar i ffotograffwyr/fideograffwyr proffesiynol. Ategir y gwasanaeth hwn wedyn gan waith argraffu proffesiynol o ansawdd uchel a golygu fideo digidol o’r radd flaenaf.

Mae’r canlynol yn enghreifftiau nodweddiadol:

  • Fideos astudiaeth gymharol
  • Fideos hyrwyddo ysgol
  • Ffilmio cyngerdd
  • Ffotograffau dosbarth/staff
  • Ffotograffau o leoliadau
  • Ymweliadau ysgol

Cymorth gyda Chynadleddau a Chyflwyniadau

Os ydych chi’n chwilio am gymorth i baratoi ar gyfer eich cynhadledd neu eich digwyddiad cyflwyno nesaf, cysylltwch â ni. Gallwn helpu gyda deunyddiau cyflwyno, pecynnau cynhadledd ac adnoddau eraill.

Yn ogystal, mae cyfarpar cyflwyno fel taflunwyr, gliniaduron, meicroffonau, camerâu fideo a darllenfa sy’n cynnwys seinydd ar gael ar fenthyg gennym. Gallwn ddarparu technegydd cynhadledd, hyd yn oed, ar gyfer y digwyddiadau arbennig hynny.

Prisiau

I gael prisiau neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Richard Jones