Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaeth cyfeillio

Darperir y gwasanaeth cyfeillio gan Gyngor Castellnedd Port Talbot. Mae ein cyfeillwyr gwirfoddol yno i greu partneriaethau llwyddiannus, sy’n llawn ymddiriedaeth, gyda phobl sy’n unig iawn ac sy’n brin iawn o gyswllt cymdeithasol ystyrlon â phobl eraill.

Gall cyfeilliwr ddarparu rhywfaint o gwmpeini neu eich helpu i deimlo’n fwy hyderus am ffurfio eich perthynas eich hunan i’r  dyfodol.

Cwrdd â’m eich Cyfeilliwr

Pan fyddwch chi’n cwrdd â’ch cyfeilliwr am y tro cyntaf, bydd y cydlynydd yno i’ch cyflwyno i’ch gilydd. Byddwch chi a’ch cyfeilliwr yn trafod trefniant addas i’r ddau ohonoch gwrdd, a beth hoffech chi ei wneud gyda’ch gilydd. Ar ôl y cyfarfod hwn, bydd y cydlynydd yn cadw mewn cyswllt gyda chi i sicrhau fod eich partneriaeth gyfeillio’n mynd yn dda.

Mae pob un o’n cyfeillwyr gwirfoddol wedi derbyn hyfforddiant a gwiriad DBS, a rhaid iddynt ddarparu dau eirda. Dim ond gwirfoddolwyr sy’n addas am y rôl a ddetholir gennym.

Defnyddio’r Gwasanaeth Cyfeillio

Yn gyntaf, rhaid i chi gysylltu â ni, ble byddwn ni’n holi am wybodaeth oddi wrthych, ynghyd â’ch rhesymau dros fod eisiau defnyddio’r gwasanaeth.

Os yw’r gwasanaeth yn addas i chi, bydd y cydlynydd yn dod o hyd i wirfoddolwr addas ac yn eich cyflwyno ar y cyfle cyntaf.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw:

  • un dros 25 oed
  • sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot a 
  • effeithiwyd yn sylweddol gan unigrwydd ac nad yw’n cael fawr ddim, neu ddim, cyswllt ag eraill
Nid rhywun i gymryd lle gwasanaeth gofal nac iechyd mo cyfeilliwr. Ni all  gwirfoddolwyr roi meddyginiaeth na darparu unrhyw ofal personol. Maen nhw’n gweithredu’n llwyr fel cwmpeini.

Pa mor hir bydd y partneriaeth Gyfeillio yn para

Fel arfer byddai partneriaeth gyfeillio’n para hyd at chwe mis.

Y gobaith fydd eich gadael mewn lle mwy cadarnhaol, gyda chysylltiadau newydd â’ch cymuned a mwy o ddewisiadau i gael cymorth pe bai angen hynny arnoch chi. Cyn eich c yfarfod olaf,bydd y cydlynydd a’r cyfeilliwr gwirfoddol yn cwrdd â chi i’ch paratoi ar gyfer dod â’r bartneriaeth gyfeillio i ben.

Cysylltwch â ni

Tîm Diogel ac Iach
07890 901193 07890 901193 voice +447890901193