Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Beth am ddod yn wirfoddolwr Cyfeillio

Sut mae'n gweithio

Bydd cyfeillwyr gwirfoddol yn cael eu paru â rhywun yn y gymuned i ddarparu cwmpeini y mae galw mawr amdano, a’r cyfle i bobl sydd wedi’u hynysu i fynd mas i’r ardal leol. Bydd paru’n digwydd gan ystyried lleoliad, diddordebau a phersonoliaeth. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn cefnogaeth gan y cydlynydd prosiect er mwyn i’r broses fod yn bleserus a gwerth chweil.

Bydd  angen i bob un o’n gwirfoddolwyr fynd drwy broses wirio DBS.

Pethau i gwneud fel Cyfeilliwr

Fe allai cyfeillwyr dreulio amser gyda’r unigolyn yn eu cartref yn cael paned a sgwrs, neu’n gwneud pethau yn y gymuned gyda’i gilydd fel mynd i siopa, ymweld â pharc neu bysgota, er enghraifft.

Faint o amser sydd ei angen

Mae rôl cyfeilliwr yn hyblyg iawn. Cytunir ar amser a lleoliad rhyngoch chi, y gwirfoddolwr, a’r buddiolwr – defnyddiwr y gwasanaeth. Fel arfer byddwn ni’n gofyn i chi ymroi lleiafswm o awr yr wythnos.

Byddwn ni’n sicrhau eich bod chi fel gwirfoddolwr yn derbyn cefnogaeth eich cydlynydd bob cam o’ch taith gyda ni.

Hyfforddiant

Bydd gofyn i chi ymgymryd â hyfforddiant sylfaenol, gan gynnwys diogelu, gosod ffiniau, a chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Byddwch chi’n derbyn tystysgrif am bob cwrs hyfforddi a fynychir gennych.

Ymgeisio

I gael sgwrs gyfeillgar ac i ddysgu mwy, cysylltwch â ni:

The Safe and Well Team
07890 901193 07890 901193 voice +447890901193