Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Polisi rhyddhau llusernau awyr neu falwnau ar dir y cyngor

Y cyngor yw un o berchnogion tir mwyaf y fwrdeistref sirol sy'n ddigon ffodus i fod yn gartref i lawer o barciau, gerddi ac ardaloedd hamdden. Cydnabyddwn y gall gweithgareddau yn ein mannau gwyrdd agored gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd lleol.

Mae tystiolaeth o effeithiau andwyol sbwriel llusernau awyr neu falwnau ar yr amgylchedd ac ar fywyd gwyllt, yn enwedig yn yr amgylchedd morol. Gwyddys hefyd fod llusernau awyr yn achosi difrod i ffermio ac adeiladau.

Ystyrir mai gadael sbwriel yw rhyddhau llusernau awyr neu falwnau o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (1990) sy'n ei wneud yn drosedd i adael sbwriel mewn mannau cyhoeddus. Cyfrifoldeb y cyngor yw sicrhau nad oes sbwriel ar fannau gwyrdd cyhoeddus ac, felly, mae'r cyngor yn bodloni ei ddyletswyddau statudol drwy ddatblygu'r polisi hwn. Petai'r cyngor yn caniatáu gweithgareddau ar ei diroedd sy'n arwain at sbwriel ar diroedd cyfagos neu'r amgylchedd morol neu sy'n achosi niwed personol, byddai hynny'n mynd yn groes i ysbryd y Ddeddf.

Drwy weithredu'r polisi hwn, bydd y cyngor yn:

  • Gwrthod caniatâd i ryddhau unrhyw lusern awyr neu falŵn o unrhyw dir dan feddiant neu reolaeth y cyngor, ni waeth beth yw'r diben(ion).
  • Gwrthod caniatâd masnachu ar y stryd i unrhyw berson sy'n dymuno gwerthu llusernau awyr yn y fwrdeistref sirol.
  • Gwrthod hawlen i unrhyw fasnachwr stryd sy'n dymuno gwerthu llusernau awyr yn Ffair Mis Medi Castell-nedd.
  • Gofyn am 'Amodau Contract Safonol' y cyngor sy'n berthnasol i ddigwyddiadau ac arddangosiadau yn yr awyr agored ar dir/fannau gwyrdd dan feddiant y cyngor i wahardd rhyddhau unrhyw lusern awyr neu falŵn, ni waeth beth yw'r diben.
  • Ystyried y potensial i gychwyn camau gorfodi yn erbyn unrhyw berson sy'n gyfrifol am greu sbwriel drwy ryddhau lusernau awyr neu falwnau neu ganiatáu iddynt gael eu rhyddhau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob llusern awyr neu falŵn, gan gynnwys y rheiny sy'n fioddiraddadwy.

Ceir nifer o ddewisiadau amgen i ryddhau balwnau a chaiff y rhain eu hyrwyddo os bydd unrhyw gais i'r cyngor i ganiatáu digwyddiad rhyddhau balwnau. Mae'r rhain yn cynnwys rhyddhau balwnau rhithiol, cerflunio â balwnau neu ddigwyddiadau 'popian balŵn' dan do. O ran digwyddiadau coffa, mae cynnau canhwyllau neu chwythu swigod wedi profi'n boblogaidd fel dewis amgen.

Caiff y polisi hwn ei fonitro dros ei gyfnod o berthnasedd a chaiff ei adolygu yn sgîl polisïau eraill y cyngor a deddfwriaeth newydd, yn ôl yr angen.