Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Tîm Plant a Theuluoedd

Cefnogi plant a theuluoedd trwy ddarparu amrywiaeth o wahanol gyfleoedd a rhaglenni

  • Gwaith un i un gyda rhieni
  • Rhaglenni grŵp meithrin rhieni yn y gymuned
  • Tylino Babanod
  • Sesiynau galw heibio anffurfiol sy’n ceisio darparu gwybodaeth i rieni ynghylch materion neu bryderon sy’n codi
  • Gwaith uniongyrchol gyda phlant.

Ein nod yw helpu teuluoedd i gael bywyd cartref gwell a hapusach!

Gall atgyfeiriadau ar gyfer pob gwasanaeth gael eu gwneud trwy’r Un Pwynt Cyswllt (SPOC) 01639 686803 spoc@npt.gov.uk ac maen nhw ar gael i deuluoedd sydd ddim angen cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r holl atgyfeiriadau’n cael eu trosglwyddo i banel atgyfeirio yn wythnosol, a fydd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth sy’n cyfateb orau i’w hanghenion.