Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaethau Ieuenctid

Nod Tîm Gwasanaethau Ieuenctid Teuluoedd yn Gyntaf yw galluogi pobl ifanc i gaffael y sgiliau, yr wybodaeth a’r agweddau angenrheidiol i ddod yn oedolion ac yn aelodau o’u cymunedau sy’n hapus ac yn mwynhau bywyd cyflawn, a hynny trwy’r canlynol:

  • Cefnogaeth un i un ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed
  • Cefnogaeth benodol ar gyfer Gofalwyr Ifanc 8-25 oed
  • Gweithgareddau grŵp yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Cefnogaeth wrth bontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd
  • Grwpiau wedi’u targedu sy’n cynnwys grŵp LHDT a grŵp cefnogi Iaith a Lleferydd

Gall atgyfeiriadau ar gyfer pob gwasanaeth gael eu gwneud trwy’r Un Pwynt Cyswllt (SPOC) 01639 686803 spoc@npt.gov.uk ac maen nhw ar gael i deuluoedd sydd ddim angen cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r holl atgyfeiriadau’n cael eu trosglwyddo i banel atgyfeirio yn wythnosol, a fydd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth sy’n cyfateb orau i’w hanghenion.