Cefnogi Teuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae cyllid o raglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru wedi golygu ein bod yn gallu cynnig ystod o wasanaethau cymorth ar gyfer teuluoedd, plant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gallwn ni ddarparu help, cyngor a chefnogaeth i’ch teulu, i atal unrhyw broblemau neu anawsterau sydd gennych rhag gwaethygu.
Gall atgyfeiriadau ar gyfer pob gwasanaeth gael eu gwneud trwy’r Un Pwynt Cyswllt (SPOC) 01639 686802 spoc@npt.gov.uk ac maen nhw ar gael i deuluoedd sydd ddim angen cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r holl atgyfeiriadau’n cael eu trosglwyddo i banel atgyfeirio yn wythnosol, a fydd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth sy’n cyfateb orau i’w hanghenion.
Ffurflen atgyfeirio Un Pwynt Cyswllt