Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Wellbeing4Me – Rhyngchwarae / Blociau Adeiladu Resolfen

Gwasanaeth yn ystod y tymor yn Resolfen a Phort Talbot ar gyfer plant a phobl ifanc ag anabledd, yn cynnig sesiynau i annog a chefnogi datblygiad. Byddwn ni’n gweithio gyda theuluoedd i greu cynllun teulu sy’n cael ei ddatblygu o’ch cwmpas chi a’ch plentyn, ac yn rhoi atebion datblygu ymarferol i chi eu defnyddio gartref. Mae’r gwasanaeth ar gael am gyfnod cyfyngedig o hyd at 12 wythnos.

Llesiant rhieni a phlentyn - 0-3 oed

Rydyn ni’n cynnal sesiynau 2 awr i gefnogi datblygiad eich plentyn er mwyn cyflawni cerrig milltir y blynyddoedd cynnar.

Clybiau W4Me – 4-10 oed, Ieuenctid 11-17 oed ac Annibyniaeth 18-25 oed

Sesiynau grŵp ar gyfer plant a phobl ifanc, yn rhoi cyfle i gymdeithasu ar y cyd, cael ffrindiau newydd, rhannu profiadau newydd a dysgu sgiliau annibyniaeth sylfaenol. 
Bydd sesiynau gweithgareddau ar y penwythnos a gweithdai gwyliau hefyd yn cael eu cynnig.

www.interplay.org.uk

Gall atgyfeiriadau ar gyfer pob gwasanaeth gael eu gwneud trwy’r Un Pwynt Cyswllt (SPOC) 01639 686803 spoc@npt.gov.uk ac maen nhw ar gael i deuluoedd sydd ddim angen cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r holl atgyfeiriadau’n cael eu trosglwyddo i banel atgyfeirio yn wythnosol, a fydd yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi gan y gwasanaeth sy’n cyfateb orau i’w hanghenion.