Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth am Dechrau'n Deg

Gofal plant 

Os ydych yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg, efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael mynediad at ofal plant rhan-amser am ddim lle mae'r staff yn dra chymwys, wedi'u hyfforddi ac wedi'u gwirio gan y GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Mae gofal plant ar gael am 2½ awr y dydd, 5 niwrnod yr wythnos, am 42 wythnos yn ystod y flwyddyn mae eich plentyn yn 2 oed. Mae'r lleoliadau'n cynnig amgylcheddau dan do ac awyr agored o safon, sy'n helpu eich plentyn i ymgartrefu a gwneud ffrindiau newydd.  Maent wedi'u cynllunio'n dda gyda llawer o gyfleoedd i'ch plentyn archwilio, darganfod a bod yn chwilfrydig am ei fyd.  Mae'r profiadau newydd hyn yn adeiladu ar yr wybodaeth a'r sgiliau mae eich plentyn wedi'u hennill gyda chi gartref, gan gefnogi ei ddatblygiad yn barod am y feithrinfa a'r ysgol.

Iechyd 

Lles eich plentyn sydd bwysicaf i ni. Mewn ardaloedd Dechrau'n Deg mae gan Ymwelwyr Iechyd fwy o amser i'w dreulio gyda theuluoedd.  Byddant yn cynnig cefnogaeth a chyngor ychwanegol drwy gydol y beichiogrwydd a blynyddoedd cyntaf bywyd eich plentyn. 

Chwarae, Dysgu, Tyfu 

Chi sydd â'r rhan fwyaf i'w chwarae yn natblygiad eich plentyn. Ceir sesiynau chwarae a dysgu/grwpiau rhieni a phlant bach yn eich cymuned.  Gallwch gael hwyl yn darllen, yn canu ac yn chwarae gyda’ch plentyn.  Gallwch rannu syniadau ar hyd y ffordd gyda rhieni, gofalwyr a phobl broffesiynol eraill.  Mae'r sesiynau'n cefnogi plant i ddysgu drwy chwarae a datblygu eu sgiliau iaith, cyfathrebu a chymdeithasol. 

Cefnogaeth Magu Plant 

Mae Dechrau'n Deg yn ymwneud â darparu cefnogaeth i'r teulu cyfan: mamau, tadau a gofalwyr – yn ogystal â'r teulu estynedig.   Gall gofalu am blant bach fod yn heriol iawn ac nid oes gan neb yr atebion i gyd.   Cliciwch ar y ddolen uchod am fwy o wybodaeth am ein tîm a beth maen nhw'n gallu cynnig chi fel teulu.

Ydych chi'n gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg? Cewch wybod ar 'Ardaloedd Dechrau'n Deg'

Am wybod mwy? Cysylltwch â Thîm Dechrau'n Deg ar (01639) 873026 neu flyingstart@npt.gov.uk

Mae gan Dechrau'n Deg Cymru dudalen Facebook genedlaethol hefyd!