Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Helpu gyda gofal plant

Gofal Plant Di-dreth

Os ydych chi’n rhiant sy’n gweithio sydd â phlant o dan 12 oed (neu o dan 17 oed yn achos plant anabl), gallwch chi agor cyfrif ar-lein i dalu am ofal plant cofrestredig. Bydd y llywodraeth yn ychwanegu at yr arian rydych chi’n ei dalu i mewn i’r cyfrif. Am bob £8 rydych chi’n ei dalu i mewn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2 arall. Gallwch chi dderbyn hyd at £2,000 ar gyfer pob plentyn bob blwyddyn – sef hyd at £500 bob tri mis. Os oes gennych chi blentyn anabl, gallwch chi dderbyn hyd at £4,000 ar gyfer pob plentyn – sef hyd at £1,000 bob tri mis.

Ydw i’n gymwys?

Rhaid i chi, ac unrhyw bartner, ddisgwyl ennill (ar gyfartaledd) o leiaf £125 yr wythnos yr un (sy’n cyfateb i 16 awr o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw).  

Os ydych chi, neu eich partner, ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, neu rydych chi’n methu gweithio oherwydd eich bod chi’n anabl neu â chyfrifoldebau gofalu, gallech chi fod yn gymwys o hyd.

Allwch chi ddim cael Gofal Plant Di-dreth os ydych chi, neu eich partner, yn unigol yn disgwyl ennill £100,000 neu fwy.

Gallwch chi ddefnyddio’r arian yma i’ch helpu i dalu am y canlynol:

  • gwarchodwyr plant, nanis a meithrinfeydd cofrestredig;
  • ysgolion, clybiau ar ôl ysgol, a chynlluniau chwarae;
  • meithrinfeydd dydd a chlybiau gofal di-fwlch.

Allwch chi ddim defnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â’r canlynol:

Credydau Treth ar gyfer gofal plant

Os ydych chi’n deulu sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig ac mae gennych chi blant o dan 16 (neu o dan 17 os ydyn nhw’n anabl), gallwch chi hawlio hyd at 70% o’ch costau gofal plant yn ôl. Yn dibynnu ar eich incwm, gallech chi gael hyd at £122.50 yr wythnos ar gyfer un plentyn, neu hyd at £210 ar gyfer dau blentyn neu fwy.

Ydw i’n gymwys?

Rhaid i chi fedru hawlio credyd treth gweithio, a rhaid i chi, ac unrhyw bartner, fod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Gallech chi fod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Plant hefyd, hyd yn oed os nad ydych chi’n gweithio.Gallwch chi ddefnyddio credydau treth ar gyfer gofal plant i helpu i dalu’r canlynol

  • gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis cofrestredig;
  • clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae;
  • ysgolion a gweithwyr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref gofrestredig

Allwch chi ddim hawlio credydau treth ar yr un pryd â’r canlynol:

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno’n raddol yn ystod y blynyddoedd nesaf, a bydd yn disodli nifer o fudd-daliadau sy’n bodoli ar hyn o bryd, gan gynnwys credydau treth. Os ydych chi eisoes yn derbyn credydau treth, does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth nawr.


Credyd Cynhwysol

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant 3-4 oed, hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r cynnig ar gael i blant o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed, pryd byddan nhw’n cael cynnig lle amser llawn mewn addysg.

Mae’r Cynnig yn gyfuniad o’r ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen Meithrin (FPN) sydd ar gael i bob plentyn 3 a 4 oed, a gofal plant ychwanegol wedi’i ariannu.

Mae’r holl geisiadau am y Cynnig Gofal Plant yn cael eu prosesu gan dîm Cynnig Gofal Plant Castell-nedd Port Talbot, ac maen nhw ar gael yma.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm y Cynnig Gofal Plant ar 01639 873018

O Gam i Gam

Mae O Gam i Gam yn ffynhonnell ychwanegol o gymorth Gofal Plant a ariennir gan CBSCNPT ac sydd ar gael i rieni/gofalwyr sy'n byw yn ardal yr Awdurdod Lleol.
Mae O Gam i Gam yn rhoi cyfle i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gael mynediad i leoliadau gofal plant o ansawdd uchel ledled sir Castell-nedd Port Talbot a chymryd rhan ynddynt.
Mae'r cynllun hefyd yn galluogi plant o deuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau penodol i gael mynediad i leoliad gofal plant o ansawdd da am ffi is.
Am fwy o wybodaeth am O Gam i Gam anfonwch e-bost at eycu@npt.gov.uk

PaCE (Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth)

Ydy costau Gofal Plant yn eich atal rhag gweithio neu gael hyfforddiant?

Bydd PaCE yn helpu rhieni/gwarcheidwaid sy’n ddi-waith i gael hyfforddiant a chyflogaeth.

Byddan nhw’n helpu i gael hyd i atebion a’u hariannu er mwyn goresgyn rhwystrau gofal plant a galluogi rhieni/gwarcheidwaid i baratoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth a chael mynediad iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: PaCE@gov.wales neu  danielle.devonald@dwp.gsi.gov.uk