Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant CNPT

Cyrsiau Hyfforddi

Mae rhaglen hyfforddi’n cael ei chynnig bob tymor i’r holl ddarparwyr gofal plant cofrestredig yn ardal Castell-nedd Port Talbot. Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyrsiau gorfodol sy’n ofynnol gan AGC, a chyrsiau eraill sy’n gallu gwella eich datblygiad proffesiynol personol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Hyfforddi ar childcaretraining@npt.gov.uk neu ffoniwch 01639 873013

Grantiau a Chefnogaeth

Mae Uned y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn gallu cynnig amrywiaeth o grantiau i leoliadau gofal plant a gwarchodwyr plant.

Maen nhw hefyd yn cynnig cefnogaeth i bob darparwr gofal plant ynghylch sawl agwedd ar gynnig darpariaeth gofal plant, megis cefnogaeth ar ôl arolygiad gan AGC, cynllunio, a’r wybodaeth ddiweddaraf.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Swyddogion Datblygu Gofal Plant yn Uned y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ar 01639 873018.

Rôl Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Maen nhw’n cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan AGC.  

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP)

Mae’n ofynnol gyfreithiol ar yr awdurdod lleol i gwblhau Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) fel dyletswydd statudol o dan y Ddeddf Gofal Plant 2006.

Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yn well ddefnydd rhieni / gofalwyr o ofal plant, y cyflenwad o ofal plant yn y sir ac unrhyw ffactorau sy'n debygol o effeithio ar y galw am ofal plant. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i greu cynllun gweithredu ar gyfer Uned Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Castell Nedd Port Talbot a gweithredoedd ehangach y Cyngor ynghylch gofal plant.

Cynhelir Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant llawn, gan gynnwys ymgynghori â rhieni / gofalwyr, cyflogwyr, plant a phobl ifanc, darparwyr gofal plant a gweithwyr proffesiynol eraill, bob pum mlynedd. Gwneir diweddariad ar yr asesiad, gan edrych ar y cyflenwad a'r galw, bob blwyddyn.

Mae’r adroddiad yn adnabod bylchau ac yn cynnig awgrymiadau a fydd, pan yn ymarferol bosib, yn bodloni anghenion rhieni fel bod yr Awdurdod yn medru gwireddu’r ddyletswydd Gofal Plant yn ddigonol, fel y’i hamlinellir yn y Ddeddf Gofal Plant. Croesewir ymatebion i’r ymgynghoriad gan gyfranddalwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd â barn ar y mater.

Roedd yr asesiad yn cynnwys cyfuniad o ymchwil pen desg, arolygon rhanddeiliaid ac ymgysylltu â nhw, yn ogystal â chanfyddiadau ystod o arolygon ar-lein a ddatblygwyd gan yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.  

Cynhaliwyd yr asesiad rhwng Gorffennaf 2021 a Mehefin 2022, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022.